Henry Jones yn gwrthod yr idea o gymorth gras, ac mewn ystyr y mae. Nid gwiw," meddai, "bod Rhagluniaeth yn ymyrryd." (t. 226). Ond o'i ran ef, cau allan ragluniaeth neilltuol a gras neilltuol yr ydys, am mai rhagluniaeth i gyd ydyw hi a gras i gyd; a pha un bynnag a fuasai ef yn fodlon i ni wneud y defnydd hwnnw o'i athrawiaeth ai peidio, y mae ei syniad yn rhoi gosodiad gwych iawn i ni at esbonio cymorth gras. Os nad rhywbeth cyfiawn, caead, ynddo'i hun yw personoliaeth mewn dyn a Duw, yna nid oes dim anhawster mewn golygu gweithredoedd dyn yn eiddo iddo ef ei hun, ac ar yr un pryd yn ffrwyth cymorth oddi uchod. "Y mae dyn fel bod hunanymwybodol yn hel y greadigaeth i gyd i graidd . . . Y mae'r greadigaeth yn curo yn ei waith ef yn meddwl ac yn ewyllysio," (t. 177), yr un fath, mi feddyliwn. ag y dywedai rhyw eneth fach, wrth ddisgrifio cur mewn pen, "fod eich calon chi'n curo yn eich llygad." Ein rhoddi'n hunain i Dduw, dyna ydyw hynny, cael Duw gyda ni ac ynnom." (t. 287). Ni ddaw dyn, mewn gwirionedd, ddim i'w dreftadaeth o ryddid ac annibyniaeth ond trwy yfed rhywbeth i mewn o'r cylch y mae'n perthyn iddo. "Mewn ystyr y mae cymdeithas o flaen y dyn unigol. Fe'i genir ef, nid yn unig iddi, ond o honi." (t. 181). "Nid ei eni'n rhydd y mae dyn yn ei gael, ei eni yn atebol i fynd yn rhyddach ryddach trwy ddal cymundeb â'r byd.' (t. 290).
(3). Pwnc arall eto, o'r pynciau cyffredinol yma, yw lle Profiad mewn ffurfio Barn ar gwestiynau crefyddol. Er fod Syr Henry mor gryf dros benderfynu popeth wrth reol rheswm noeth, nid rheswm noeth, mewn un ystyr, mo hwnnw chwaith. Nid rheswm wedi ei ysgar oddiwrth ffactau profiad ydyw, ond rheswm a phrofiad yn ei gyfoethogi. Y mae i fyd crefydd ei bethau, fel i bob byd arall; ac nid gwiw barnu byd crefydd wrth ddeddfau unrhyw fyd is. Y