mae Henry Jones cyn gadarned ar hyn o bwnc ag y byddai David Charles Davies, ond fod gan Charles Davies fwy o rag-dybiau nag ef, Ysbrydoliaeth y Beibl yn un. Ond y mae Syr Henry yntau yn dysgu'n hollol nad oes gan neb hawl i dybied fod y profion i gyd ganddo, am fod hanesiaeth naturiol byd a phrofiad crefydd ganddo. "Rhag-dybiau a ddaliai o'r goreu, o'u cymhwyso at wrthrych ym myd natur, ni wnânt ond gwyrdroi'r ffactau, o'u cymhwyso at wrthrychau sy'n naturiol ac yn rhywbeth heblaw hynny." (t.28). Rhaid i'r edrychwr ym myd crefydd, y sceptic bydol ei feddwl, gydnabod ei derfynau. Ac ni fydd waeth i mi ddeud yn blaen yn y fan yma, nad yw llawer o amheuaeth y dyddiau hyn ddim yn haeddu parch. . . . Nid yw'r amheuwyr hyn yng nghyrraedd ymresymiadau hyffordd dros grefydd nac yn ei herbyn hi chwaith." (t. 87).
(4). Fe allai y bydd enwi un enghraifft arall yn ddigon yma, y gred fod y da yn sicr o lwyddo. Fe ŵyr pawb fod optimistiaeth Tennyson a Browning wedi apelio'n rhyfeddol o gryf at Henry Jones. Iddo ef y mae'r gred fod Duw yn berson, ac mai cariad yw'r disgrifiad goreu a feddwn ni o'i gymeriad Ef, yn golygu fod daioni yn siwr o lwyddo yn y pen draw. "Yr erthygl ganolog (mewn credo crefyddol goleuedig) ydyw ffydd yn hollalluowgrwydd Duw a'i gariad diderfynau." (t. 336). Y mae hwn yn un o'r gwirioneddau hunanbrofedig hynny y mae eu gwadu yn rhy wallgof i fod yn deilwng o ystyriaeth.
Gwelir wrth yr esiamplau, ac fe allesid yn hawdd eu hamlhau, fod y llyfr yma'n fwnglawdd o addysg, hyd yn oed i'r rhai hynny na fyddont yn fodlon i'w cymryd en cludo gydag ef yr holl ffordd. Fe fyn Syr Henry fod y sierwydd am y pethau hyn, a gredir yn ddiameu yn ein plith, o'r un rhywogaeth a'r sicrwydd ar unrhyw fater o wyddoniaeth gyffredin. Gwir ei fod yn addef nad yw'r sicrwydd yma ond y cyfryw