Prawfddarllenwyd y dudalen hon
tradictory, and therefore could be reconciled or even held simultaneously." Could not be reconciled a ddylai hwn fod yn ol pob tebyg. Ond syndod leied o ddim fel yna sydd yn y llyfr; a diau y cywirir hwy bob un yn yr argraffiad nesaf.
Anaml y caiff dyn y fath athronydd a Syr Henry Jones, a'i ddawn ysgrifennu cyn ystwythed ac mor amrywiog a phe na buasai ond llenor neu bregethwr yn gwybod llai o'r hanner. Ac y mae ystwythter a rhuglder ei ddawn, tra yn help dirfawr i ddarllen ac astudio'r llyfr, yn gwbl o dan lywodraeth barn a medr yr awdur, fel nad yw yn y gradd lleiaf wedi cymylu'r ymresymiad na'i ddallu mewn un modd i ystyr ac ergyd ei areithyddiaeth ei hun.
[Y Brython, Ebrill 6, 13, 20, 1922.