Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mannau y gwneir ef ganddo. Ac nid yw difynnu adnod y bo blas ysmaldod ar y dyfyniad ddim yn bechod yn erbyn chwaeth nac yn erbyn parchedigaeth chwaith mewn cannoedd o enghreifftiau, Naturiol i ddyn fynd ar ofyn y Llyfr a fedro oreu at lawer pwrpas heb law pwrpas y Llyfr ei hun. Ni fyddai deud fod John Hughes yn y Gogledd, a Matthews yn y De, yn bur dueddol i hynny, ddim yn ddigon i gyfiawnhau'r arferiad. Eithr byddai cofio bod Henry Rees yn ymollwng i beth felly yn ddigon i atal dyn rhag condemnio'r peth. Ryw dro fe âi Rees o Gae'r Sasiwn yn y Bala, a gweled John Hughes, Pontrobert, yn gwerthu rhywbeth yn y porth. "Beth sy gynnoch chi, John Hughes?" meddai. "Fy llun," oedd yr ateb. Faint ydyn nhw?" "Chwech, Mr. Rees." Ah," ebai Rees, wrth dalu amdano, Wel, John Hughes, "yn rhad yr ymwerthasoch." Dyna esiampl lle'r oedd cymryd benthyg adnod i smalio yn hollol gyfreithlon. Y mae yn y gyfrol hon, rhwng gwaith Matthews ei hun a gwaith Morgan ugeiniau o rai mor gyfreithlon a hithau. Dyma un "Gellid pennod faith o'i ddisgrifiadau o swynion natur ond ni feiddiwn fwy na throchi blaen y wialen yn y mel a'i brofi. Os bydd yn felys i'r genau, ymweled y darllenydd a'r cwch." (tud. 401). Colled fuasai bod hebddynt. Hebddynt buasai dawn y Cofiannydd yn llai disglair a gwiwddestl. Y mae adnod Matthews wrth wrthod y D.D. yr un ffunud, yn gwbl weddaidd: "Nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd." Ond y mae yma rai siamplau gan yr Awdur a chan ei wrthrych y buasai cystal hebddynt. Fel hyn y disgrifir Cymraeg Matthews pan fyddai hwrdd o lefaru clasurol arno, wrth ymgyfaddasu ar gyfer pobl y Gogledd. "Erbyn cyrraedd Lerpwl neu Amlwch nid oedd edefyn o honi (iaith y Fro) arno; yr oedd ei arddull mor bur a chlasurol fel mai o'r braidd y beiddiai 'r craffaf ei gyhuddo, "Yr wyt tithau hefyd yn un