Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac y mae'r Cofiant yn hollol lân oddiwrth fai arall a roddir yn erbyn llawer cofiant da, sef rhoi gormod o le yn ol yr herwydd i'r digrif a'r diddorol yn y gwrthrych. Anfynych y daw cofiant i ŵr hynod, boed fach, boed fawr, na chewch chi y rhai a'i hadwaenai oreu ac a'i hoffai fwyaf, fod hynodion y gwrthrych, yn enwedig ei hynodion digrif, yn cael gormod o le. Meddwl y byddwn i bob amser fod llyfrau Owen Jones ar Ddafydd Rolant a Rhobert Thomas yn gynddelwau o gofiant; ond mynnai cyfoeswyr y ddau fod y digrif a'r hynod yn rhy amlwg o lawer. Yr wyf fi yn ameu'r feirniadaeth yna hyd heddyw; ond mi a'i clywais aml i dro. Tebyg oedd barn Rees Jones am Gofiant Griffith Williams i William Ellis, Maentwrog. Yr wyf yn ameu hynny hefyd. Yr un peth mewn effaith am Gofiant Matthews i Siencyn Pen Hydd. Dywedai John Williams, Llandrillo, wrthyf: "Siencyn gwneud yw e', John Puleston bach." Dychymyg Mr. Matthews oedd llawer o hono yn ei farn ef. Awgrymir yn y llyfr hwn fod beirniadaeth debyg i'w chlywed yn y De. Beth bynnag am gywirdeb y beirniadu yna, y mae'n hawdd gennym ddeall anfodlonrwydd cyfeillion ac edmygwyr, a pherthynasau yn enwedig, pan welont droion digrif a throion trwstan yn cael gormod o bwyslais. Cafodd ambell i ddarlithiwr yn y De a'r Gogledd rybuddion go blaen gan berthynasau'r gwron; chlywais ddarfod bygwth cyfraith ar un. Yn awr ni fu'r demtasiwn i syrthio i'r fagl yna erioed yn fwy nag ynglŷn â Matthews, waith yr oedd yn ddyn eccentric heb law bod yn ddyn mawr—chwedl J. J. Morgan, yn bersonoliaeth ddarlunaidd tu hwnt. Hawdd fuasai maddeu i gofiannydd am lithro i dynnu darluniau yn lle adrodd hanes pur. Fe wrthsafodd Mr. Morgan y demtasiwn yn llwyr. Dichon mai mantais at hynny oedd fod y Cofiant yn un go hir. Yr oedd yma ddigon o le i roi cryn swrn o bethau digrif