odiaeth i mewn, heb fynd yn anghymesur a cholli cysondeb. Difynnir yn rhywle air John Williams, Bryn Siencyn, mai'r peth a dynnai sylw dyn yng nghwmni Matthews oedd, nid ei fawredd ond ei foneddigeiddrwydd. Mi goeliaf y ceir, wedi darllen y llyfr i gyd, fod Matthews, nid yn ei gwmni yn unig, ond yn ei holl gysylltiadau, yn ddyn da iawn yn gystal a bod yn ddyn mawr yn rhagori, nid mewn athrylith yn unig, ond mewn pethau eraill hefyd y disgwylir i bobl gyffredin ragori ynddynt. Ag arfer gair Morgan ei hun mewn cysylltiad arall, medrai'r pregethwr hwn ddeud cynefinion plaen yn gystal a deud pethau doniol. Gellid meddwl bod rhai o'r pregethau a wnaeth son mawr am danynt yn bethau diaddurn yn y llawysgrifau. Dywed Morgan am un ohonynt ei bod hi'n taro'r gwaelod mewn cyffredinedd, neu ryw air fel yna.
Gwell na'r cwbl, er fod y Cofiant yn gyfrol o bum can tudalen, ac er bod o angenrheidrwydd ddyfod heibio i'r un pethau mewn gwahanol benodau, nid oes yma ddim dyblu dianghenraid. Talent brin, yn enwedig mewn cofianwyr, yw talent yr Awdur i fod yn gyflawn heb fod yn feichus.
Gall fod ei ddiwydrwydd a'i fedr, a'i ffawd hefyd, mewn cael hyd i ddefnyddiau cofiant, yn cyfrif peth am hyn. Ond mwy na'r cwbl ydyw ei ddiddordeb ef ei hun yn ei destun. Pregethwr Saesneg yw Mr. Morgan gartref, ers blynyddoedd lawer; ond ni ddeallodd neb byw anian pregethu Cymreig yn well. Y mae yn ddihareb o hoff o wrando pregethau; ac fe ddarlunia oedfa, neu adrodd pregeth, gyda'r un afiaith ag y bydd Sais yn disgrifio pryd o fwyd. Pe darllenech waith ambell i deithiwr yn disgrifio gwlad ei ymdaith, odid na fyddai mwy o hwyl ar ddisgrifio rhyw ginio yn yr hotel nag wrth ddisgrifio golygfeydd rhamantus mynydd a nant. Yr un fel y mae Morgan yn disgrifio oedfa. Nid oes ball ar ei ddyfalwch yn