Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedyd hanes yr amrywiol symudiadau y cymerth Matthews ran ynddynt. Nid edwyn neb yn ol y cnawd wrth ddisgrifio brwydr. Nid oes na thynerwch gau at goffadwriaeth dynion da eraill, na'r gronyn lleiaf o awydd talu rhyw hen chwech i wrthwynebwyr Matthews. Ond pregethwr oedd Matthews fwyaf; a'r cymhwyster pennaf i 'sgrifennu amdano oedd gwirioni ar bregethu. Y mae'r bregeth ym mywyd Cymru yn ddirgelwch dudew i ambell i ddyn dieithr. Ni wyddant nemor ddim am yr elfen sacramentaidd sydd i Gymro mewn pregethu da. Nid pob pregethwr o Gymro weithian sydd wedi cael y clefyd chwaith. Clywais un gŵr da iawn, a fu farw'n ddiweddarpregethwr gwych hefyd—yn deud yn lled gynnar ar ei weinidogaeth: "Ail beth hollol ydi pregethu gen i. Gweithio efo phobol ifanc ydi mhwnc i." Daeth hwnnw'n bregethwr er gwaethaf ei syniad am le pregethu yn y weinidogaeth; ond ni chynghorai dyn yr un pregethwr ifanc i fodloni ar syniad cyffelyb, rhag digwydd na bo ganddo ddigon o gydwybod nac o ddawn i ddringo'n uwch na'i gynddelw.

Od yw Cristnogion Efengylaidd yn iawn mewn cyfrif bod y byd i gael ei achub drwy gyhoeddi cenadwri'r cymod, yna fe ddylai pregethwr feddwl cymaint o bregethu ag a feddwl yr Offeiriad Pabaidd o weinyddu sacramentau. Dyma gofiannwr beth bynnag, a meddylfryd ei galon yn y cywair priodol i ddehongli cyfrinach bywyd a chuddiad cryfder pregethwr mawr.

Ymdroisom hyd yma gyda doniau'r cofiannydd; ond ynglŷn â llyfr mor neilltuol a hwn byddai 'r ymdriniaeth wannaf yn anghyflawn heb ymhelaethu peth ar destun y llyfr. Hynny a amcenir y tro nesaf.