II
Cymwynas fawr iawn oedd rhoi Matthews yn ei le yn hanes Methodistiaeth ac yn hanes Cymru. Yr oedd ef, oherwydd mwy nag un peth, yn un anodd gwneuthur tegwch â'i goffadwriaeth. Er iddo gael digon o'i addoli, fe gafodd lawer o'i feirniadu hefyd, a'i ddodi yn is na'i deilyngdod gan rai a wyddai ychydig amdano, ond heb wybod digon. Dichon fod ei fân ddiffygion ef ei hun yn gyfrifol i ryw fesur am hyn. Dyn duwiol a thipyn o'r dyn anianol ynddo oedd Matthews, gŵr o ragfarnau cryfion, o blaid ac yn erbyn rhywrai. Hefyd ni chafodd ei ddoniau disglair ond ychydig o fanteision addysg. Gwir nad oedd ef, mwy na llawer o'r hen bregethwyr, ddim yn annysgedig; ond dysgedig o'i waith ei hun i fesur mawr ydoedd. Yr oedd gwir yn y peth a ddywedai mewn dadl wrth ateb Saunders. Dadl uno'r Athrofeydd oedd ar droed yng Ngorllewin Morgannwg. "Amddiffynnai Saunders y scheme yn hyawdl a galluog dros ben. Dywedai na cheid ond smattering o'r ieithoedd clasurol yn Nhrefeca, a dim ond crap ar bob gwybodaeth. Anghofiasai ef cyn pen chwe mis yr ychydig Roeg a gafodd yno. Awgrymai Matthews. nad bai Trefeca oedd hynny; ped aethai i ryw goleg arall anghofio a wnâi ef. Yn wir yr oedd wedi drwgdybio ers blynyddoedd fod y Doctor wedi anghofio'i Roeg. Ychydig fisoedd a gafodd ef ei hun yn Nhrefeca, ond yr oedd wedi parhau 'i efrydiau ac ychwanegu tipyn o flwyddyn i flwyddyn at ei Roeg." (t. 186). Os oedd coll mwy na'i gilydd ym Matthews, dyna ydoedd, diffyg dawn i weithio mewn gwedd. Prin y .byddai cyn deced at ei gydradd ag at ei wannach. Nid oedd ball ar ei hynawsedd at y gwan; ond am rai digon cryfion i fesur cleddyfau ag ef cymerai yn ganiataol eu bod cyn gryfed ag yntau; ac o byddai ar yr iawn ni fyddai waeth ganddo, ambell dro, mo'r llawer