â pha beth i daro. Yn awr, addysg mewn ysgolion a fuasai'r feddyginiaeth ddi-fethu bron i'r diffyg hwn. Y peth goreu braidd a ddysgir mewn ysgol yw gweithio mewn gwedd. Ac wedyn, yr oedd dyfod i'w ran orfod ymladd o gwbl yn anfantais iddo gyda rhai. Ac wrth fod y pynciau yr ymladdai yn eu cylch yn bethau pwysig i fywyd Cymru, bu Cymru yn rhanedig arnynt, ac aeth yn bur anodd i unrhyw un a gymerasai ran amlwg yn y dadleuon gael tegwch gan ei frodyr ar y pryd na chan yr oes nesaf chwaith o ran hynny. Yn hyn yr oedd yn gyffelyb i Evan Jones, Caernarfon, a Thomas Gee. Yr oedd plaid gref yn erbyn Matthews yn y De; a phan ddywedai rywbeth yn erbyn y Dr. Lewis Edwards, byddai'r Gogledd i gyd bron yn ei erbyn ar hynny o bwnc, er yr anghofient y cwbl wedi ei weld a'i glywed. Yn wyneb y camwri a wnaed â'r gŵr mawr hwn, gwaith ardderchog oedd ysgrifennu yn helaeth a manwl arno, i'w ddodi yn ei le yn hanes ei gyfnod. Ni fedr neb astudio Methodistiaeth, yn enwedig Methodistiaeth y De, rhwng 1840 ag 1890, heb astudio Matthews.
Dyry'r Cofiant bob gwybodaeth am ei deulu. Ymddengys ei fod o hil pendefigion y Sir, a dygai ol hynny yn bur amlwg, ond ol peth arall yn amlycach fyth, ol cynefindra â bywyd gwerin Morgannwg, yn enwedig bywyd pobl y Fro. Ond yn ddi-ddadl, ei brif ysgol oedd Methodistiaeth. Fel y dywed Mr. Morgan, anaml y dyfynnai yn y pulpud o'r hen bregethwyr; ond amlwg oddiwrth ei areithiau achlysurol mewn Cyfararfod Misol neu Sasiwn, ac oddiwrth ei ymddiddan, nad oedd neb wedi ei drwytho 'n drymach yn hanes y tadau. Rhaid i ni gofio ddarfod iddo fyw.peth gyda rhai yr âi eu cof yn bur bell yn ol. Pan aeth i Drefeca yn 1842 yr oedd dau o "bobl " Howel Harris yno,—" un patriarch hyll o hen a gofiai Howel Harris, a'r ail, William James, dyn caredig a dymunol, a gladdwyd yng Ngwanwyn 1848." Yr oedd dolennau