Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng nghyrraedd Matthews, a'i cysylltai yn bur agos â'r oes gyntaf o Fethodistiaid. Yr oedd yn odiaeth o gyfarwydd yn hanes yr oes o'r blaen; nid â'i phrif ddynion yn unig, ond â'i phregethwyr cyffredin a'r blaenoriaid anenwog. Darllener hanes ei ymweliad â'r Coed Duon, Mynwy, lle y cafodd odfa oedd yn rhenc flaenaf ei odfaon mawr; ac yng nghesail yr ystori honno cewch un arall a ddengys mor annwyl ganddo oedd coffadwriaeth yr hen bobl. "Adwaenai Matthews lawer o'r saint a hunai yn y gladdfa. Wel, wel! dyma Evan Richards,' meddai. Oeddech chi yn ei nabod e?' 'Ei nabod e? Yr hen greadur a'n lloriws ni i gyd yn Sasiwn Pont-y-Gof?' atebai Matthews. Tomi Richard yn y gadair, a dim mynd ar y seiet. Galw ar Evan Richards. Na, mae'chi ofan chi ar fy nghalon i,' meddai yntau. 'Rhaid i chi ddod ym mlaen.' Yr oedd côt fawr ar fraich yr hen frawd, cnoyn o dybaco yn ei foch, ambarelo dan ei gesail a het sidan yn ei law. Ar ei ffordd ym mlaen tynnodd flwch corn o'i logell a gollyngodd y dybaco o'i enau i hwnnw. Aeth i'r sêt fawr a siaradodd nes gyrru'r lle 'n wenfflam. Yr angen am yr Ysbryd oedd y pwnc. Yr oeddwn innau i siarad ond mi wrthodais. Y mae'r nôd wedi ei gyrraedd,' meddwn ni; 'y mae'r Ysbryd wedi dod.' Fum i ddim yn falchach erioed o ddianc heb siarad.' Yn ystod yr un prynhawn ychydig funudau yn gynt, pan ddangosai John Williams iddo gadair Morgan Howels, a'r astell bregethu arni (fel y byddent—y gadair o'i throi a'i chefn allan yn bulpud), rhwbiai Matthews ei fysedd hyd yr astell, gan ddywedyd: "Y mae ysbrydiaeth yr hen greadur yn yr astyllen yma." Y mae ychwaneg o'r stori hon, a gwell hefyd, ond mai dyma'r tameidiau oedd at fy mhwrpas i yn y fan hyn. Yn wir, ni welais i braidd lyfr anos dyfynnu ohono, waeth pe dyfynnech bopeth a darawo'ch ffansi wrth ei ddarllen, ni byddai lle yn y Goleuad i ddim arall.