Y mae yma hanes Matthews wedi mynd i rywle ym Mro Morgannwg i wastatâu tipyn o gweryl plentynaidd rhwng dynion da. A'r cwbl a wnaeth yr ymwelydd, i dawelu'r anniddigrwydd, oedd siarad ar goedd â'r brawd oedd wedi tramgwyddo, mynd dros hanes ei dad a'i dad—cu, ac yn y blaen, nes bod y gŵr wedi anghofio'r tramgwydd, ac mewn dagrau, wedi toddi'n llymaid. Rhaid fod y gainc yma ym magwraeth Matthews, o ffyddlondeb i draddodiadau'r Corff ac edmygedd o hynodion y tadau, yn elfen dra phwysig yn adeiladwaith ei gymeriad,—y bwysicaf oll os nad wyf yn camsynied yn fawr.
Darlithiodd ar Howel Harris, ac ar Siencyn Pen-Hydd. Ysgrifennodd lyfr ar Siencyn, un arall ar George Heycock, a chofiant i Thomas Richard.
Am ei ddiwinyddiaeth, diwinyddiaeth Biwritanaidd oedd hi yn ei phrif lwybrau. Dyna oedd y wê bid a fynno, er bod yma gryn ryddid mewn gweithio'r anwe iddi. Yr hen bynciau oedd bannau'r genadwri—y byd yn ei bopeth yn annigonol, darpariaeth gras ar gyfer pechadur, maddeuant trwy angau'r Groes, angau ac ansicrwydd bywyd, dydd barn a diwedd byd. O fewn yr hen derfynau byddai'r amrywiaeth yn ddiderfyn braidd. Cawn yma restr o destunau Mathews. (t. 410—11). Llyfryddiaeth yw teitl y bennod; ond gweithiau Matthews ei hun, nid gweithiau yn trin amdano, a feddylir, Pennod xxxi. Yn awr, y mae rhyw ddau gant ag un ar bymtheg o destynau os iawn y cyfrifwyd, ar y rhestr hon. Cof llyfr, ebai'r Cofianydd, sy tu cefn iddi. Ni wyddys ar ba faint o destynau heb law'r rhai hyn y pregethodd Matthews, ond dyma gofnod o gynifer a hyn. Cymharer y rhestr â rhestr testynau adnabyddus y rhan fwyaf o'n pregethwyr mawr ni; a chredaf y ceir fod yr amrywiaeth yn eithriadol o fawr. O bregethwyr y Gogledd, ni fedraf fi feddwl am neb a chymaint amrywiaeth testynau ganddo, neb a mwy beth bynnag, os nad oedd Wheldon