Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Huw Myfyr. Rhaid cofio, wrth gwrs, fod Huw Myfyr wedi noswylio 'n gynnar. Gallai y daethai Griffith Roberts yn bur agos hefyd. Am y rhan fwyaf o'n pregethwyr Sasiwn ni, byddai rhestr eu testynau adnabyddus hwy yn llai o lawer. Y testynau adnabyddus a ddywedaf, nid pob testun ddim y pregethasant arno. Cofiai Mr. Charles Williams ryw bedwar ugain go helaeth o destynau John Williams. Ni allwn innau, ar fy ngoreu glas, ychwanegu dim hanner dwsin at y rhestr. Credaf y buasai rhestr Thomas Charles Edwards, os yr un, yn llai. Ni fuasai un Owen Thomas, a fu'n fugail ar hyd oes weinidogaethol faith, ddim yn un liosog iawn. Ond dyma Matthews, oedd yn bregethwr teithiol y rhan fwyaf o'i amser, wedi cyrraedd dros ddau gant.

Ei anian, yn fwy na'i ddarllen, a'i cadwai rhag culni mewn athrawiaeth, anian at y pethau sicr a'r pethau buddiol. Yr oedd yn Galfin at y carn, ond yr oedd ochr i Galfiniaeth na fedrai ddygymod dim â hi. Clywais William James, Aberdar, yn adrodd dywediad Matthews, pan glywsai rywun yn rhoi disgrifiad Uwch-Galfinaidd o'r Brenin Mawr: "Os un fel yna ydi Duw, mi garwn i gael cic arno. Dywediad eithafol oedd hwnnw; ond ni waeth hynny na rhagor, pechod diwinyddiaeth naillochrog o hyd ydyw, ei bod hi'n gwneuthur Duw yn un na fedrwch chi mo'i barchu; ac nid oedd dywediad eithafol Matthews ond ei ddull o farcio golygiad a farnai yn annheilwng. Tipyn bach cryfach a chasach ydoedd na dywediad John Evans, Garston, wedi gwrando pregeth led amrwd ar Gyfiawnhad trwy Ffydd: "Os dyna ydi'r drefn, mi fyddai yn well gen i fod heb fy nghyfiawnhau. Cawn ystori yn y llyfr yma yn rhywle, a adroddwyd gan David Morgan, blaenor o Gaerdydd. pan drinid achos David Phillips (o'r Bala weithian), yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, wrth ei dderbyn yn bregethwr. Yr oedd Matthews, meddai