Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

David Morgan, wedi mentro amddiffyn rhyw ŵr ieuanc a flinid gan amheuon am yr athrawiaeth. Gofynnodd rhywun i Matthews, ar ol y drafodaeth: "Buocn chi, Mr. Matthews, yn cael ych blino gan amheuon?" "Do, Do!" ebai yntau. "Ond," gofynnai'r llall eilwaith, "buoch chi ar ych gliniau gyda'ch amheuon?" "Ar fy ngliniau? oedd yr ateb; "do, ar fy mola hefyd." Rhyw reddf at athrawiaeth iachus a gadwai ei feddwl ef rhag mynd yn gaeth i draddodiadau pa mor gysegredig bynnag y byddent.

III

Yn yr ysgrif o'r blaen mi ddywedais mai dyn duwiol a thipyn o'r dyn anianol ynddo oedd Matthews; eithr nid tynnu oddiwrtho, ond ychwanegu ato y mae hyn Y mae digon o ddynion yn dwyn arwyddion eu bod yn cael eu hachub, hynny sy o honynt; ond nid oes yno ddim llawer i'w achub. Rhaid wrth yr anianol yn sail i'r ysbrydol. "Nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, wedi hynny yr ysbrydol."

Yn y dynol noeth, yn y bersonoliaeth drwmlwythog o gyfaredd, y gorwedd y peth hwnnw a wna'r cymeriad yn un effeithiol er da neu er drwg. Beth sy'n ein swyno yn y Dr. Johnson, a William Roberts, Amlwch, ac Edward Matthews? Rhywbeth dyfnach na dim diwylliant, dyfnach nag enwad na dylanwad arferion cymdeithas—y dyn—rhyw gynysgaeth a naws y pridd arni, a ddaeth gyda hwynt i'r byd. Fel yr oedd cnawd a chalon y Salmydd yn ei weddiau, felly yr oedd cnawd yn gystal ag ysbryd Matthews yn pregethu, hufen pob peth oedd ynddo yn dyfod i'r bregeth. Nid yw'r cwbl o lawer wrth gwrs yn y bregeth ysgrifen. Fel y dywedai Matthews ei hun, sketches oedd y rheini—y concrete, chwedl Joseph Jenkins, nid y gynnau mawr a blennid arno i saethu.