Yr oedd concred Matthews yn aml yn blatfform digon plaen; ond pan geid ergyd, hi fyddai 'n malu ac yn lladd yn ofnadwy.
Ni lwyddid bob tro i gael ergyd chwaith. A dyna beth digrif yn perthyn i bregethu Cymreig——pregethwr mawr yn cael aml i odfa galed, ac mewn odfa lewyrchus yn cadw'r bobl yn hir heb roi dim byd neilltuol iddynt. Mi glywais y byddai hen areithwyr politicaidd Lloegr, megis Pitt yr Hynaf, yn dechreu mewn Ilais nad oedd braidd yn hyglyw ar lawr Ty'r Cyffredin, a chynhyddu mewn grym wrth fynd yn mlaen. Ni wn i ddim a fu rhywbeth tebyg ym mysg pregethwyr Lloegr a'r Alban. Mi glywais un a bregethai fel yna o ran dawn llais, er ei fod o ran deunydd yn ddisglair o'r foment gyntaf—John Caird. Dechreuai ef yn ddistaw fel Cymro. Ond am y rhan fwyaf o bregethwyr amlwg Lloegr yn y triugain mlynedd diweddaf, fel arall yr oeddynt. Byddai Knox—Little, a Liddon, a Scott Holland yn enwedig, yn gweiddi o'r dechreu, felly Marshall Lang yn Scotland. Ond y mae gennym ni, yn enwedig y Methodistiaid, ryw draddodiad gwahanol, o ddyddiau Robert Roberts o Glynnog a Daniel Rowlands Llangeitho hyd Ddafydd Morris Cae Athro a Hugh Jones. A pherthyn i'r llinach yna yr oedd Matthews. Chi gaech ganddo bregeth yn talu am dani ei hun mewn un sylw yn lled agos i'r diwedd, neu odfa yn talu am lawer o odfaon cyffredin a diafael. Natur ydyw hynny hefyd. Os na chewch chi'r peth ym mhregethu'r Saeson a'r Scotiaid, chi a'i cewch yn aml yn eu llenyddiaeth. Cymharer dau awdur sy wedi tewi—fe geid enghreifftiau o blith rhai byw o'r ddau ddull—A. B. Bruce a James Denney. Byddai Denney yn deud rhywbeth ym mhob brawddeg. Am Bruce wedyn, chi allech ddarllen dalennau bwy gilydd heb gael dim neilltuol. Cymer yr un faint o drafferth i draethu cynefinion, ag arfer gair J. J. Morgan, a phe bai yn dywedyd dirgelwch; ond cewch ambell i ddarn pennod sy'n werth y