llyfr i gyd, pethau a gofiwch am byth. Un fel yna ym mysg pregethwyr oedd Matthews. Bodlonai am amser, ac weithiau am odfa gyfan, ar y buddiol diaddurn, ond yn ddisyfyd fe lamai llew arnoch o ganol llannerch nad oeddych yn meddwl fod arni ddim ond brysgwydd. Os gellir beirniadu peth fel hyn o safle celfyddyd, yr oedd yn fwy dynol a naturiol, na phregethwr a mwy o gomand ar ei ddawn. Dywedai John Williams, Dwyran, wrth Matthews rywbryd, ar ddiwedd diwrnod o bregethu: "Ddaru'ch chi ddim trio pregethu heddyw, Mr. Matthews." Atebodd yntau: "Gwell peidio trio, gwelwch chi? na thrio a methu." Ac o safle celfyddyd hefyd yr oedd y peth yn fantais i'r elfen ddramodol oedd mor amlwg ynddo.
Pennod gyforiog o ddiddordeb yw'r un ar yr "Elfen Ddramayddol" ym Matthews. Bu adeg, y mae'n ymddangos, pryd y byddai yn mynd rhag ei flaen o bwnc i bwnc, yn rhannu ei bregeth yn debycach i'r patrwm cyffredin. Clywais Thomas Rees yn dywedyd mai hwnnw oedd y cyfnod goreu Matthews; ond fel y cofir ef gan y ddwy oes ddiweddaf a'i clywodd, trofaus, cwmpasog, clebyrddog," chwedl Rees, ydoedd ei ddawn. Ni ddywedai i ba le yr oedd am eich arwain nes eich bod wedi cyrraedd yno. Yna, wrth goron y ddrama chi welech fod y cwbl wedi ei gynllunio, bod y llinynnau i gyd yn ei law ar hyd yr amser, ond mai ef a wyddai bryd i'w tynhau hwy. Yr oedd mor ddramodol a John Elias, ond fod y dramodol ym Matthews yn fwy anocheladwy. Byddai Elias yn cynllunio mwy ym mlaenllaw. Rywbryd yn Sir Fflint, ar fedr pregethu pregeth y "Darn Llaw ar galchiad y pared," aeth i'r Capel nos Sadwrn, a gŵr y Tŷ Capel gydag ef, i experimentio sut i gael cysgod y bysedd ar y pared oddiwrth y gannwyll. Ni ddywedwn fod Matthews yn fwy crefftwr nag Elias, ond ymddengys ei fod yn cael ei orchfygu'n llwyrach nag yntau gan ei bregeth ei hun. Arwydd o hynny oedd ei fod weithiau'n mynd