Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i eithafion nad aethai dyn byth iddynt o'i fodd. Tynnodd ddarn o'r pulpud i lawr rywdro mewn Sasiwn. Waith arall rhoes y fath dynn ar ei gob, wrth wneud gwregys o honi, nes ei rhwygo hi o fforchiad y cefn hyd y goler. Dywedai Llewelyn Edwards—ac y mae yn enghraifft o degwch barn y gŵr hynaws hwnnw, ei fod yn ei ddywedyd pryd nad oedd hi'n rhyw dda iawn rhwng "teulu'r Doctor" a Matthews—mai dyna oedd hwyl Matthews, " chwarter awr o ecstasy pur.'

I'r sawl a glywodd Matthews fe ddaw'r iasau a gynhyrchai ei lais pan fyddai dan deimlad i fyny drachefn wrth ddarllen. Ni welais i braidd gofiant erioed yn mynd cyn nesed i roi'r pregethwr i gyd o'ch blaen chi ag y gwneir yn y llyfr hwn. Dywed Morgan fod dadl ynghylch nodau'r llais, rhai yn eu cyfrif yn aflafar, ac eraill yn eu galw'n fiwsig pur. Tebycaf mai'r gwir yw fod y nodau yn fiwsig, ond nid y miwsig arferol cynefin i'n clust ni; hynny yw, yr oedd nodau Matthews yn perthyn i ryw ysgawl, rhyw scale, ond nid yr ysgawl gyffredin. Nid methu taro'r nodyn yr amcanai ato y byddai ef—y mae rhai felly—ond taro nodyn dieithr i'r ysgawl gyffredin. Dywedir fod gan y Groegiaid risiau yn eu miwsig nad ydynt yn ein miwsig ni; ond yr oedd miwsig y Groegiaid yntau yn fiwsig yr un pryd. Nid nodau dilun ydoedd. Priodolder mawr sy yn nywediad y Dr. Cynddylan Jones, fod rhywbeth yn llef Matthews tebyg i oergri'r gwynt, "the wail of the wind." Dywedai John Williams ei bod hi yn rhy feiddgar i'w dodi mewn print; eithr nis gallaf fi ymatal rhag ei dodi, waith ni chlywais ddim yn mynd yn nes at galon y pwnc. Nid meddwl yr ydoedd am y cnudiad hwnnw sy'n codi braw arnoch, ond y cnudiad y buasai Charles Kingsley yn canu pennill iddo ac yn ei alw'n chime. Beth bynnag, yr oedd yn llais Matthews pan fyddai dan ysbrydoliaeth ryw gyfuniad rhyfeddaf o ddieithrwch annaearol bron a phereidd-dra; ac y mae'r dadleu sy ynghylch y peth yn profi hynny.