iawn i Laneurwg. Y mae brawd yn y Cas Bach wedi pallu rhoi ffyrling at yr Athrofa gan awydd rhoi at eich capel newydd chwi yr hwn sydd mewn bwriad ei godi. Yn awr, annwyl gyfeillion, gallwch ddyfod allan yn galonnog gyda'r casgliad at yr Athrofa, canys aiff y brawd o'r Cas Bach dan eich beichiau ynghylch y capel." (t. 136).
Eithr na feddylied neb fod yr arabedd a'r direidi yn amgen na thonnau yn dawnsio ar wyneb môr dwfn o ddwyster a difrifwch. Yr oedd ei eiddigedd dros burdeb yn y pulpud yn ddihareb. Wrth wrthsefyll adferu pregethwr disglair ei ddoniau dywedai: "Beth all e bregethu? A fedr e ddywedyd gair yn erbyn celwydd, anlladrwydd, a llygredigaethau'r oes?" "Fe all bregethu edifeirwch a maddeuant," meddai hen weinidog. "Fe edifarhaodd Judas," atebai Matthews, "ond ni chyfrifwyd ef mwyach gyda'r apostolion, ac ni chafodd ran o'r weinidogaeth hon. Mae'r ferch yn ei bedd, ac efe yw'r achos. Y bachgen yn prynu tair o wahanol fodrwyau i dair merch, a'r cythraul yn mynd i'w galon trwy bob modrwy. Cofiwch pwy fu yn y pulpud Methodistaidd, Eben Morris, John Evans, Thomas Richards. Yr ydym ni wedi arfer â phulpud glân, ac os ych chi'n codi bechgyn fel hyn yn ol iddo, 'daiff Edward Matthews byth mwy trwy ei ddrws." (t. 400).
Cyffelybasom ef i Samuel Johnson. Yr oedd yn debyg i Johnson yn ei ragfarnau. Nid goleu gwyn a geid gan yr un o'r ddau, namyn goleu drwy wydr lliw; ond y mae'r lliwiau'n annwyl gennym yn hanes y ddau, ac yn anwylo'r ddau yn ein golwg. Cly wais un o edmygwyr pennaf Matthews yn dywedyd fod elfen o'r teirant ynddo; ac â hyn y cyd—dery'r cofiannydd hwn. "Yr oedd ynddo duedd i ormesu yn y gadair ac i wrthryfela allan o honi." (t. 290). Ond rywsut, yng nghyfrif y rhan fwyaf o honom, pechod mewn dyn bach yw gormesu. Yr ydym, rhwng bodd ac anfodd, yn maddeu hynny i ddyn mawr. Owen