Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim rheswm ond yn unig na châi ef fynd yn flaenor. Fel hyn y rhoes Matthews derfyn ar y cŵyn. "Fe fydd Mrs. Matthews, gwelwch chi? yn rhoi tamed o gacen i'r ci bach yma, a minnau'n achwyn fod hynny yn wastraff. Ond dyna fydd y wraig yn ei weud: Stumog at gacen sy gydag e.' Felly am y brawd oco, gwelwch chi? Stumog at gacen sy gydag e. Gwnewch e'n flaenor ac fe fydd yn un o'r dynion goreu fydd gennych chi."

Ond naillochrog neu ddi-duedd, dyna fo i chwi. Y mae yma nid fel y carai addolwr ei gael, ond fel yr ydoedd i'r sawl a'i hadwaenai, yn ddiarbed o'r cryf, ac yn dyner odiaeth at y gwan, yn deud ei gyfrinach yn ddi-warafun wrth ddynion cymharol gyffredin blaenoriaid heb fod o'r rhes flaenaf, ond a ffrwyn yn ei enau, nid tra fyddai'r annuwiol, ond tra fyddai dynion mawr y Sasiwn yn ei olwg. Safodd, drwy glod ac anglod, dros y pethau a gredai. Pregethodd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw gyda phob hyfder yn ddi-wahardd. Gwelodd godi eglwysi cryfion a gwyliodd eu cynnydd yng Nghymoedd y Gweithfeydd, a bu ei weinidogaeth yn un o'r prif elfennau yn eu bywyd hwy am oes faith. Yr un pryd, bob yn ail a Chwm Rhondda, câi capeli bychain Bro Morgannwg ei oreu ar Suliau cyffredin. Dydd y Farn yn unig a ddengys pa faint o eneidiau yn Ne a Gogledd a ddaliwyd ganddo yn gaethion i ewyllys Duw. Ac wedi i rywun gael ei ddal gan Matthews, Matthews. fyddai ei bregethwr mwyach am ei oes. Hawdd fyddai enwi rhesi o flaenoriaid a phregethwyr, ac o saint yr eglwysi, nad oedd neb yn eu bryd i'w gystadlu ag Edward Matthews. O bydd gan rywun hawl i ddeud fel ei Geidwad ddydd a ddaw, "Wele fi a'r plant a roddes yr Arglwydd i mi," efo fydd hwnnw.

Gan yr Awdur y ceir y llyfr. Llwybreiddier at y Parch. J. J. Morgan, Mold, North Wales.