Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwy ŵyr nad yw'r môr sydd yn drai yn ein hymyl ni yn llanw mawr i olchi rhyw geulennydd sychion yn rhywle arall? Mae buddugoliaeth Iesu Grist, gan mai Buddugoliaeth Duw ydyw, yn rhy eang ei hamgylchoedd i ni fedru cymryd ei hystyr hi i mewn, na medru ffurfio barn deg pa un ai araf ai cyflym y mae hi yn cerdded.

II. Ond rheswm arall dros arafwch y Meseia yn cwblhau ei fwriad,—Buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd ydyw ei Fuddugoliaeth ef, "Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, i'r hwn yr ymfoddlonodd fy enaid; gosodaf fy Ysbryd arno.' Nid ydyw pob buddugoliaeth o eiddo Duw ddim yn fuddugoliaeth Duw yn ei ysbryd yn ystyr uchaf y gair. Y mae trigolion y ddaear a llu'r nef, a nerthoedd anian at ei alwad i drechu ei elynion, ond fyn o mo rheini yn yr ymgyrch hon. Thry o ddim yn awr i'w gawell saethau am fellt, nac i'w arfdy am genllysg. 'Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd.' Arglwydd y lluoedd' yw ei enw ef, ond nid trwy ei luoedd y mae am orchfygu yn awr, trwy fy Ysbryd.' Dyna ydyw buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd,—buddugoliaeth sydd yn ddwyfol drwyddi. Mae concwest sancteiddrwydd a gras yn oruchafiaeth Duw, nid yn unig yn ei hamcan terfynol, ond yn ei chynllun, yn ei holl fanylion. Digon o goncwest gan yr adeiladydd ydyw gweld yr adeilad i gyd wedi ei orffen yn datguddio rhyw ddrychfeddwl cyfan. Ond ni fydd Iesu Grist ddim yn fodlawn nes cael pob maen yn y deml ysbrydol yn deml fechan. Felly y mae natur yn gweithio. Mae Duw yn gwneud pob cangen ar ddelw'r pren, ac yn tynnu llun coeden ar bob un o'r dail. Felly rhaid i fuddugoliaeth Iesu Grist, gan mai Buddugoliaeth Ysbrydol ydyw hi, dwyfol o'i dechreu i'w diwedd, fod yr un fath drwyddi. Rhaid i'r holl fanylion ddwyn delw egwyddor ac amcan y gwaith i gyd. "Er ein bod yn