Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli i.' Gad yna Gethsemane; dos heibio i Galfaria; hyn oll a roddaf i ti.'" Wedi methu tynnu Iesu Grist oddiwrth ei genadwri a'i amcan mawr, y mae'r un drwg yn barod i ymfodloni ar ei weld yn newid tipyn bach ar ei gynllun. "Anghofia pwy wyt ti am darawiad llygad er mwyn i ti gael bod y peth wyt ti yn ddiymdroi." Hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli i." Na," ebe'r Iesu,dos yn fy ol i, Satan,' hanner amrantiad o wrogaeth i'r un drwg fuasai yn ddigon i andwyo fy muddugoliaeth i. Fe fuasai arnaf gywilyld ei dangos yng ngŵydd angelion wedi ei hennill ar delerau mor wael. 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi."", Anghydweld â Chynllun Mab Duw fyddai addoli diafol am foment er mwyn cael rhyddid i addoli Duw yn oes oesoedd. Chawn ni ddim gwneud y mymryn lleiaf o ddrwg er mwyn cael bod yn dda byth wedyn. Fynnai'r Iesu ddim difetha ei fuddugoliaeth hyd yn oed yn ei manylion er mwyn prysuro ei waith. Ac fe aeth o'r anialwch fel y daethai yno heb golli arweiniad Ysbryd yr Arglwydd. Y mae Efe yn araf, yn hamddenol, yn hunan—feddiannol dros ben, am fod y fuddugoliaeth y mae Ef a'i fryd arni yn fuddugoliaeth Duw, ac yn fuddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd.

"Ie," meddech chi, "ond ai nid oes rhywbeth nes atom na hynna i gyfrif am arafwch a hunan-feddiant y Meseia yn nygiad ei waith ymlaen?" Buddugoliaeth Duw, a Buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd ydyw ei fuddugoliaeth Ef; ond y mae hynny yn esbonio gormod, ac felly nid ydyw yn esbonio dim yn iawn. Mi allwn ni ymdawelu yn wyneb unrhyw ddyryswch wrth glywed mai felly y mae Duw wedi ordeinio, ac mai felly y mae Ysbryd Duw yn cyfarwyddo, ond ai nid oes rhyw ystyriaeth yn ei hymyl y gallwn ni daro llaw arni—rhywbeth yn natur Buddugoliaeth Iesu Grist a dawela ein meddwl ni yn wyneb ei ddull tawel,