I
Y Diweddar Barchedig
THOMAS ROBERTS, BETHESDA
BLWYDDYN brudd i Fethodistiaid y Gogledd ydoedd 1899. Collasom amryw o wyr pur anodd eu hepgor. Yn eu mysg nid oes yr un ag y mae'n anaws dweyd i bobl ddieithr ddeall, pa fath ydoedd, na Mr. Thomas Roberts. Er y bu lluniau da o hono o ran ei gorff, yn y papurau, y mae llun ei feddwl yn anodd iawn ei dynnu; ac eto nid oes neb a adawodd groewach argraff o'r hyn ydoedd ar bawb a'i hadwaenai yn dda. Dichon ei fod yn anodd ei bortreadu'n deg, am fod ei hanes yn cyfrif llai na chyffredin am hynodion ei gymeriad a theithi ei feddwl, yr hyn sydd brawf eglur o ddoniau cynhennid y dyn. Mewn dyddiau fel y rhai hyn, pryd yr ymddigrifir mewn dangos dyn yn gynnyrch ei amgylchiadau, peth amheuthun yw gweled gydag ambell un fod Rhagluniaeth wedi cadw'r gyfrinach iddi ei hun am y sut a'r modd y bu hi'n cuddio cryfder ynddo.
Brodor oedd Thomas Roberts o'r Green, pentref bychan yn ymyl Dimbech. Ganwyd ef Awst 19, 1835. Bu farw John Roberts, ei dad, pan oedd y bachgen yn dair oed. Efe oedd unig blentyn y briodas honno. Llafurus iawn a fu ei fam, Jane Powel Roberts, i ennill bywoliaeth a rhoi ysgol iddo yntau, trwy olchi a smwddio i foneddigion y gymdogaeth. Ym mhen blynyddoedd priododd eilwaith. Bu'n weddw drachefn; a bu fyw i weled ei mab ym mhlith arweinwyr ei Gyfundeb. Nid anghofiodd yntau hyd y diwedd mo'i ddyled iddi.