Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymarhous ef o weithio? Oes. Pa beth ydyw Buddugoliaeth Duw? Dyna ydyw hi mewn enghraifft, ac mewn enghraifft y deallwn ni beth fel hyn oreu, Buddugoliaeth Barn, "Wele fy ngwasanaethwr; gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd "; a chadw yn fanylach at drefn y geiriau, 'a Barn i'r Cenhedloedd a draetha efe.' Barn fydd ei genadwri. Beth atolwg ydyw Buddugoliaeth Duw yn ei ysbryd? Dyna ydyw honno eto mewn enghraifft, Buddugoliaeth ar ddynion, buddugoliaeth ar galonnau, Dyna ydyw'r unig wir fuddugoliaeth ysbrydol. "Barn i'r Cenhedloedd a draetha efe." Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth." A phan ddyco efe allan farn, fe dry dynion o'r diwedd o'i blaid; "yn ei enw Ef y gobeithia'r cenhedloedd." Felly dyna yn ein hymyl ni ddau reswm dros hunan—feddiant ac arafwch rhyfeddol y Meseia yn ennill ei fuddugoliaeth. Y mae hon yn fuddugoliaeth tegwch ac yn fuddugoliaeth denu, yn fuddugoliaeth barn ac yn fuddugoliaeth ar ddynion.

I. Y mae Iesu Grist yn ymarhous am mai Buddugoliaeth Barn ydyw ei fuddugoliaeth Ef, "A Barn i'r cenhedloedd a draetha efe."

"Mae dydd y farn yn dod ar frys,"

ond dydd cyhoeddi'r ddedfryd fydd hwnnw. Barn yn gwthio i'r golwg a feddylir yma, barn ar ganol ei dwyn i oleuni. Yng nghanol tryblith amgylchiadau dynion, yng nghanol terfysg y bobloedd, dadwrdd penaethiaid y byd, y mae un llais tyner ond awdurdodol yn para i gyhoeddi barn ac yn ennill mwy o wrandawiad o hyd. Thâl hi ddim iddo fo gyffroi. Nid dadleu ei ochr ydyw gwaith y Barnwr. Mae Iesu Grist yn ddadleuydd, ac fel dadleuydd y mae ei hyawdledd tanbaid yn cynhyrfu'r nefoedd, ond byddai hyawdledd cyffrous yn beth o'i le ar y fainc. Ni ddywed yr un gair i dueddu'r tystion. "Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac