ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd." Mae achos Iesu Grist yr un mor glir na fydd raid iddo ef ei hunan ar ryw olwg ymryson dim o'i blaid. Fe ennill yr achos hwn ei le ohono ei hunan; barn ydyw. Fel Barnwr, y mae yr Iesu mor ddi-duedd yn llywodraethu'r llys a phe na buasai a fynno fo ei hunan ddim â'r canlyniadau. Barnwr ydi o yma; nid Dadleuydd. Nid Brenin mono yma chwaith. Y mae efe yn Frenin, ond nid dyna ydyw ei gymeriad yn awr. Y mae gwedd ar yr Efengyl, gwedd o rwysg di-ymaros: y mae hi i fynd rhag ei blaen doed gwrthwynebiadau o'r man y delont, a theyrnas ydyw ei henw yn y wedd honno; ond fe fydd yn dda gen i feddwl am air arall heblaw y gair teyrnas, teyrnas ac amynedd ein Harglwydd Iesu Grist." Fel Buddugoliaeth Teyrnas nid ydyw ei oruchafiaeth ef yn aros wrth neb na dim; ond fel Buddugoliaeth amynedd y mae yn aros wrth bob peth. Disgwyl ydyw ei hanfod hi. Y mae gwedd ar yr Efengyl yn yr hon nid ydyw ei buddugoliaeth ddim ond buddugoliaeth amynedd. Aros i'r hyn sydd yn deg a da ei wthio ei hunan i'r wyneb; aros i'r drwg fynd yn waeth ac i'r da fynd yn well. Ai nid dyma ddull Iesu Grist yn ei Eglwys? Erbyn i chi gael hanes y dyn a fu yn wrthddrych disgyblaeth, nid ar unwaith y gosododd Duw ef mewn llithrigfa: na, yr oedd hen wrthgilio wedi bod cyn i Dduw ei ollwng ef i gyflawni'r pechod anfad a barodd fod pawb yn unfryd am ei ddiarddel. Ar yr un egwyddor y llywodraethir y byd i gyd; dioddef i'r efrau fynd yn fwy o efrau, a disgwyl i'r gwenith fynd yn fwy o wenith. Swydd Iesu Grist yn y cymeriad hwn ydyw dwyn pobl i edrych ar bethau fel y maent. "Efe yw goleuni y byd," goleuni gwyn heb ddim arlliw o amhuredd ynddo. Nid ydyw ei bresenoldeb ef ei hunan yn effeithio dim ar degwch yr olwg y mae yn roi ar bob peth. Dyna un peth sydd i'w ddysgu oddiwrth y damhegion hynny lle y gesyd y Gwaredwr ei hunan
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/151
Prawfddarllenwyd y dudalen hon