Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/152

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan fel gŵr yn mynd oddicartref,—y meddwl yw fod y prawf ar ei weision mor deg a phe buasai Ef ei hunan o'r golwg. Nid ydyw yn dywedyd dim mwy na phe buasai heb fod yno i droi'r fantol: dal y glorian ydyw ei waith. Byddai brenhinoedd Lloegr, y rhai salaf o honynt, ganrifoedd yn ol, yn gwneud cryn gamchwarae trwy fynd eu hunain i'r Llysoedd Barn, a siarad yno i wyro uniondeb, nes y dywedodd y Barnwr wrth un o honynt o'r diwedd nad oedd i gael bod yno, ac os deuai ei Fawrhydi yno, fod yn rhaid iddo dewi. 'Does i'r Brenin fel Brenin ddim llais mewn Llys Barn. Ond y mae ein Brenin ni mor ymatalgar, mor hamddenol, mor ddistaw fel y mae dynion rai yn beiddio ei gablu yn ei Lys ei hunan. "Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg." "Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc; y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi." Gan mor dawel ydyw y Barnwr y mae rhai yn barod i'ch taeru mai gwag ydyw'r fainc. Ond peidied neb a cham—gymryd, y mae'r Barnwr ar y fainc. Y mae yn ymarhous, yn dda ei amynedd, er fod y gweithrediadau yn para yn hir; ond y mae efe ar y fainc. Fe fu o flaen y fainc; do, fy nghyfeillion, fe fu eich Ceidwad chwi o flaen y fainc, ac fe wyddai pa fodd i ymddwyn yno. Tewi yn foneddigaidd yr oedd gerbron ei farnwr, ond ar y fainc y mae o erbyn heddyw, Ac Efe a draetha farn. Wel—

2. Y mae Iesu Grist yn ymarhous yng nghylch dwyn ei waith i ben am mai Buddugoliaeth ar ddynion ydyw ei Fuddugoliaeth ef. Buddugoliaeth tegwch; ïe, a phawb yn gweld mai tegwch fydd o. Buddugoliaeth Barn, ïe, a barn yn troi yn drugaredd ar wefusau y Barnwr wrth ei chyhoeddi, ac os ydyw ymaros barn yn hir—ymaros, y mae ymaros trugaredd yn aros hwy. Buddugoliaeth ar galonnau ydyw buddugoliaeth yr Efengyl; nid buddugoliaeth trais, nid buddugoliaeth