Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeargryn. Y mae i oruchafiaeth Iesu Grist yn y wedd yma eto, fel yn y wedd arall, ei hadegau prysur. Yr un fath yn union ag y mae hi mewn natur, y graddol a'r disymwth bob yn ail. Rhoddi hâd yn y ddaear,—dyna beth ar unwaith. 'Doedd o ddim yno yn y bore; y mae o yno cyn y prynhawn. Yr hâd yn tyfu y modd nis gŵyr yr heuwr—dyna y graddol yn dilyn y disymwth. Wyr neb pa fodd y mae yn tyfu, ac eto fe ŵyr pawb mai tyfu mae o. "Ond pan ddel y cynhaeaf, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman i mewn,"—dyna y peth ar unwaith yn dilyn y gweithrediad graddol. Mae'r ŷd addfed yn chwifio yn awelon y bore, ac wedi dechreu gwywo cyn machlud haul. Felly yn union yn nheyrnas nefoedd, y mae y graddol a'r disymwth bob yn ail. "Wele fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen"—dyna yr arloesi graddol. Yn ddisymwth " wedyn "y daw yr Arglwydd ei hun i'w deml, sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei ddisgwyl. Eithr pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef?" Ddaliwn ni ddim llawer o oruchwyliaethau disymwth prysur. Son am ymweliadau grymus o eiddo Duw, ydach chi'n barod iddynt? Fedrech chi eu dal pe gwelai Duw yn dda eu rhoi?" Pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef?" Y maent yn dal y son am dano, ond pwy a saif pan ymddangoso Efe? "Canys Efe a fydd fel tân y toddydd ac fel sebon y golchyddion"; a dyma i chwi draws-gyweiriad siarp, "efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian." Tân y toddydd ydi o y naill foment, Efe ei hunan ydyw'r toddydd y foment nesaf. Efe ei hunan ydyw'r tân; ïe, ac Efe ei hunan ydyw'r toddydd hefyd sydd yn gofalu na chaiff y tân mo dy ddifa di wrth ddifa dy sorod. "Efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian."

"Cerdd ym mlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glan,"

meddech chi wrth ganu, ac yr ydych yn synnu na cherdda fo yn gynt. Ac fe losgai bopeth o'i flaen