ysig ydyw hon. Ac y mae Iesu Grist yn awr yn prysuro cymaint ag a fedr o heb ddryllio'r gorsen ysig. Son am bethau mawr, son am amlygiadau grymus, mae Duw yn rhoi heddyw y pethau mwyaf fedr o heb beidio a bod yn Dduw yr achubydd. Y mae yn barod i roi'r pethau mwyaf fedd yn awr i'r rhai sydd yn barod i'w derbyn nhw. "Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth. "Mae'r dorraeth wedi mynd heibio heb i mi gael trugarhau wrthyn nhw," ebe'r Anfeidrol. "Ond gadewch i hynny fod, mi faddeua i i'r gweddill." Raid i chwi ddim aros iddi hi fynd. yn rhyw faddeu mawr cyn gofyn i Dduw eich achub chi. "Y mae efe yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth." "Mi a wn yr atgyfodir ef," meddai Martha am ei brawd, "yn yr atgyfodiad y dydd diweddaf." "Pan ddaw hi yn atgyfodiad, fe gwyd fy mrawd." Cwyd," meddai Iesu Grist, "ac mi wnaf fi atgyfodiad yn unswydd er mwyn ei godi ef. Fe gaiff fynd yn atgyfodiad y munud yma cyn y caiff Lasarus aros yn ei fedd." Wyddoch chi am ryw farw ysbrydol yn y gymdogaeth hon, a sawyr y bedd wedi mynd arno? Peidiwch aros iddi hi fynd yn ddiwygiad cyn codi'r maen. Y mae'r Atgyfodiad a'r Bywyd yn ymyl heddyw. Pe byddai achos fe rwygai'r awyr â'i utgorn mawr, fe ddisgynnai gyda'i osgordd glaerwen i achub dim ond un. Ydi, y mae Duw yn rhoi heddyw'r pethau mwyaf a fedd a'r pethau mwyaf fedr o roi yn gyson ag arbed y gorsen ysig. "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth."
Wedi iddo ef ddwyn allan farn, faidd neb ei hameu hi. Hyd hynny, hyd oni ddygo efe allan farn, y mae'n arbed y gorsen ysig a'r llin yn mygu. Pan fyddo'r Iesu wedi gorffen ei waith, fydd yno yr un gorsen ysig na fydd hi wedi tyfu neu wedi crino—yr un llin yn mygu na fydd hi wedi diffodd neu wedi cynneu yn fflam,