ei enw ef y gobeithia y cenhedloedd." Peth ddaw o hono ei hunan ydyw gobaith, os daw o hefyd. Mae yn haws gorfodi popeth na gorfodi gobaith. Rhwymwch chi ddyn a gefynnau heyrn yn y daeardy, fe fydd ei obaith yn rhydd ar ei aden wedyn. Fe fydd teilyngdod Iesu Grist mor amlwg yn y man fel y daw dynion ato na wyddan nhw ddim pam. Fe ddaw yr holl genhedloedd i glymu eu gobeithion wrtho ef. "Pa le y buom ni cyhyd heb ddyfod at hwn?" Yn hwn y gwelant eu digon, y gwelant hynny o dda ym mhopeth oedd ganddynt o'r blaen. Fe welir y diwrnod hwnnw mai o hono Ef y mae pob pelydr o oleuni a gafodd meibion dynion erioed, ac mai ato Ef drachefn y mae pob rhinwedd a phob prydferthwch yn tynnu. "Yn ei enw Ef y gobeithia'r cenhedloedd." Pa beth ydyw'r ymchwil diflino am y gwir sydd yn nodweddu'r oes hon? Pa beth ydyw'r cynnwrf anesmwyth sydd ym mhob meddwl difrif? Pam y mae hyd yn oed dynion digrefydd mor anniddig na bai'r byd yn well? Argoel ydyw hyn fod Iesu Grist yn buddugoliaethu ar rai sydd eto heb arddel ei enw, ei fod wedi eneinio llawer Cyrus sydd eto heb ei adnabod Ef. A phwy a ŵyr na fydd y rhai sydd yn edrych bellaf oddiwrth Iesu Grist ryw ddiwrnod yn gweithio i'w ddwylaw wedi'r cwbl. Oes, y mae argoelion fod y cenhedloedd ar y ffordd i glymu eu gobeithion wrth Fab Duw. Y mae Seba wedi llwytho ei haur, y mae brenhinoedd y dehau wedi cychwyn eu rhoddion, y mae camelod yr anialwch dan eu beichiau, mae hwylbrennau Tarsis yn gwyro eisoes dan yr awelon i gludo golud y cenhedloedd i gysegr Duw er mwyn harddu lle ei draed. Beth feddyliech chi o'r fuddugoliaeth hon? Ai nid yw hi yn werth ambell gyfarfod gweddi gwan gwan i drydar am dani? Os erys, disgwyl am dani, canys hi a ddywed o'r diwedd, "Gan ddyfod y daw, ac nid oeda."