y byddai'r llythyren ganol yn debyg iawn o ddigwydd yn yr un fan. Ond pa beth bynnag oedd gan Mathew mewn golwg wrth wneud y sylw hwn am y cenedlaethau, ni a wnawn ni ddefnydd o'r geiriau nad oedd yr efengylwr yn ei fwriadu—defnydd teg, hefyd, gobeithio.
Yr ydych yn sylwi fod adnod y testun yn digwydd brâs fesur cyfnod amseryddol yr Ysgrythyr Lân. Gydag Abraham y mae hanesiaeth ysgrythyrol yn dechreu canlyn yr un grisiau a hanesiaeth gyffredin. Cyn Abraham yr oedd yr hanes yn brasgamu. Ac heb fyned yn fanwl iawn, hyd Grist y mae yr hanes yn cyrraedd. Ym mhen cenhedlaeth wedi ei fyned ef i'r nefoedd yr oedd y rhan fwyaf o lawer o ddefnyddiau'r Testament Newydd eisoes mewn ysgrifen; ac ym mhen dwy, yr oedd yr holl lyfrau braidd wedi dyfod i'r ffurf sydd arnynt yn awr, fel y gellir dywedyd, heb ofni cael, ond ychydig iawn o eithriadau i'r dywediad, fod y Beibl, o ran yr hanes sydd ynddo, yn tewi mewn rhyw oes neu ddwy ar ol ymadawiad yr Iesu. Os ydyw hyn yn wir, y mae "o Abraham hyd Grist" yn fath o linyn mesur ar amseryddiaeth y Beibl. A dyna'r defnydd a wnawn ni o'r adnod—ei chymryd hi yn sylfaen ychydig o wersi plaen ar ddarllen y Beibl. Os cewch chi, y rhai addfetaf yn y gynulleidfa, fod rhai o'r gwersi yn ddiflas o blaen, cyfrifwch fod fy llygad ar y bobl ieuainc sydd yn gwybod llai na chi. A chwithau, yr ieuainc, os ystyriwch rai o honynt yn lled sychion, golygwch fy mod y pryd hynny yn anelu at athrawon ac athrawesau goreu'r Ysgol Sul. Mi ddeuaf o hyd i chwi oll, ond odid, yn rhywle. Y mae mwy nag a dybiai llawer o addysg yn yr ystyriaeth noeth fod yr Ysgrythyrau yn dringo at y pethau yng nghylch Iesu o Nasareth ar hyd ysgol faith o genedlaethau—y Beibl yn llyfr cenedlaethau lawer. Cenedlaethau ydyw'r grisiau y mae'r