Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa fodd i gael ysgol iddo yn ei flynyddoedd cyntaf oedd gryn gwestiwn, gan fod y Bluecoat School, yr ysgol rad, yn gorfodi ei phlant i fynd i'r Eglwys unwaith bob Sul. Ymdrechodd ei fam ddigon i yrru ei bachgen i ysgol arall, a gedwid gan Jonah Lloyd, pregethwr gyd a'r Annibynwyr. Pan ddaeth blynyddoedd y prinder a fu o flaen diddymu Deddfau'r Yd, gorfu iddo adael yr ysgol, a myned i weini at ffarmwyr. Yn y Ty Draw, ger llaw'r Wyddgrug, cartref ewyrth iddo, y dibennodd yr oruchwyliaeth hon arno; ac yn ol Trysorfa'r Plant (Gorffennaf, 1898), o'r lle y codwyd amryw o'r manylion yma, fel hyn y dibennodd hi. Damweiniodd fod yn y cae ger llaw'r ty yn cario ail gnwd o glofer. Yr oedd wedi bachu ebol bywiog a hen gaseg swrth o'r enw "Bel," na symudai braidd. heb weiddi arni; ond yr oedd y gweiddi yn gwylltio'r ebol. Anafodd hwnnw'i glun yn dost; a'r bachgen tair ar ddeg oed oedd yn eu harwain hwynt a gafodd y bai. Wedi'r helynt yma heliodd ei bac y noswaith; honno, a chychwynnodd o hyd nos adref ar ei draed i Ddimbech; a dyna ddiwedd gweithio ar y tir. Erbyn hynny daethai gŵr o'r enw Macaulay i gadw'r British School yn Nimbech, un o'r rhai cyntaf a agorwyd yn yr holl wlad. Trwy hyn y dechreuodd cyfnod newydd o ysgol ar Thomas; a chan nad beth oedd doniau'r athraw o'r Alban, yr oedd adnabod bachgen da 'n un o honynt, a gwyn fyd na fyddai modd gwybod ym mlaen llaw pwy a dâl ei ddysgu cyn poeni llawer yn ei gylch na gwario llawer o egni a dyfais arno. Gwelodd Macaulay rywbeth mwy na chyffredin yn y bachgen hwn; a bu'n garedig iawn wrtho; a rhoes ysgol nos iddo'n rhad. Debyg mai dyma'r ias gyntaf o addysg uwch nag elfennol a gafodd y bachgen, heb law ei fod yn un o blant yr Ysgol Sul, a bod ganddo, fel llawer gŵr mawr arall, fam ragorol. Ganddi hi y clywai efe beunydd a byth rai o ddywediadau Thomas Jones o Ddimbech, gŵr nad yw ond newydd gael