Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

datguddiad yma, sydd yn cyrraedd ei berffeithrwydd yng Nghrist, yn eu cerdded.

DATGUDDIAD MEWN HANES.

I. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad mewn hanes. Y mae ei fod ef yn llyfr cenedlaethau ar unwaith yn cynnwys hynny. Am a wyddom ni, gallasai'r Duw Mawr roddi Beibl i ni mewn un oes. Fe fyn rhai ei ddarllen megys pe felly y rhoddasid ef. Felly y cafodd y Mahometan ei feibl ef—mewn un oes, a thrwy law un dyn. Ni ddywedem ni ddim na allasai fod felly arnom ninnau, Gristionogion; ond ni a wyddom o'r goreu mai nid felly y bu. Llyfr cenedlaethau ydyw ein Beibl ni. Y mae hynny yn golygu, pa faint bynnag o wahanol gyfansoddiadau sydd ynddo, mai hanes ydyw'r ffrâm y gweithiwyd y cwbl iddi. Datguddiad mewn hanes ydyw'r datguddiad yn flaenaf dim. Llyfr yw hwn a gymerodd oesau i'w adeiladu.

Y mae fod y Beibl, o flaen pob peth, yn hanes, yn peri ei fod mewn rhyw ystyron yn llyfr anodd. Pe deddf—lyfr a fuasai, digon fuasai deall ei eiriau er mwyn ei ddeongli; a phe credo a fuasai, gallesid ei feistroli yn weddol, ond deall yr iaith; ond gan mai hanes ydyw, rhaid cyfieithu nid yn unig yr iaith, ond y meddyliau a'r amgylchiadau. Rhaid i chwi ddysgu gosod eich hunain wrth benelin yr ysgrifennydd, yng nghynnulleidfa'r proffwyd a'r apostol. Rhaid i chwi wrth dipyn o ddychymyg hanesyddol; ac os na feddwch nemawr o hwnnw, rhaid i chwi gael ei fenthyg. Dyma wasanaeth esboniadau. Dylai fod gennych yn eich cyrraedd, hefyd, ryw eiriadur ysgrythyrol, ac yn enwedig, os bydd modd, ryw lyfr neu ddau go dda ar arferion y gwledydd lle'r ysgrifennwyd y llyfrau, a'r oesau y cofnodir eu profiad ynddynt—rhywbeth tebyg i lyfr Thomson, "The Land and the Book." Nid