ellwch chwi ddim cael y goreu sydd i'w gael o'r Beibl heb ei ddyfal astudio. Y mae saernïaeth y llyfr yn golygu hynny; nid llyfr ydyw y cewch chwi hyd i'r cyfan sydd ganddo i'w ddeud wrth ei ddarllen ar eich cyfer.
Ond beth bynnag yw'r anawsterau a gyfyd o fod y Beibl yn llyfr hanes, y mae'r manteision sydd ynglŷn A'r wedd yma i'r datguddiad yn gorbwyso'r anawsterau. A dyma un o'r manteision—gan mai hanes ydyw'r Beibl, y mae rhywbeth ynddo i bawb. Os yw bod y Beibl yn hanes yn ei wneuthur ar ryw gyfrifon, yn llyfr anawdd, y mae'r un peth yn ei wneuthur, ar gyfrifon eraill, yn hawdd. Gochelwch wneud y Beibl yn llyfr dianghenraid o anawdd; yn faes ymryson i ryw ddau neu dri o bobl ddarllengar ddangos eu doniau. Nid llyfr i grefftwyr hyffordd yn unig ydyw hwn, wedi'r cyfan, ond llyfr i'r werin gymysg. Gwyliwch chwithau, sydd yn eich gosod eich hunain yn dipyn o ddiwinyddion, ddwyn ymaith agoriadau gwybodaeth oddi ar y bobl; y mae'r llyfr yma yn un a ddylai fod yn eu cyrraedd hwy. Defnyddiwch eich doniau i'w agoryd ef iddynt hwy, ac nid i'w gadw oddi wrthynt. Yn yr ysgol, gochelwch yr anawsterau hynny ag yr oedd eisieu esboniadau i'w dangos i chwi; peidiwch a phoeni pobl sydd heb ddarllen esboniad â'r anawsterau hynny. Fe ddylai'r mwyaf ehud yn y dosbarth gael rhywbeth o hwn, oblegid nid traethawd dysgedig mo hono, ond ystori—ffurf ar lenyddiaeth y medr y cyffredin ei mwynhau.
Dyna un fantais o fod y datguddiad yn ddatguddiad mewn hanes. Dyma un arall, a'r unig un arall a grybwyllwn ni o dan y pen yma—am mai hanes ydyw'r llyfr, nid aiff byth yn hen. Y mae credöau yn heneiddio, a chyfreithiau yn heneiddio, ond hanes yn parhau yn newydd o hyd. Y mae mor newydd a bywyd. Caiff pob oes newydd fyned ato, a chael ynddo rywbeth tebyg i'w phrofiad ei hun; caiff to ar