dywyllwch " Gair Duw yn werthfawr yn y dyddiau hynny, heb ddim gweledigaeth eglur."
Ond na chwyned neb am yr amrywiaeth yma; dyma gyfrinach cyfoeth y llyfr. Llyfr oesau lawer ydyw; rhaid eich bod yn anawdd odiaeth eich boddhau os nad oes yn hwn rywbeth a wna'r tro i chwi. Nid profiadau Apostolion yr Oen ar eu huchel fannau sydd yma yn unig, ond profiadau Llyfr y Pregethwr a Llyfr Job. Yn wir, nid oes yr un o brofiadau cyfreithlawn natur dyn—o'r amheuaeth dywyllaf sydd yn amheuaeth onest, hyd y sicrwydd cyflawnaf a'r gorfoledd mwyaf dyrchafedig—nad oes yn hwn iaith ar ei gyfer. Y mac hwn fel cadwyn a brofwyd, bob dolen o honi, cyn ei dyfod o'r gweithdy erioed. Yn wir, nid llyfr yw'r Beibl a wnaed gan bobl yn eu gosod eu hunain i ysgrifennu llyfrau, ond gan bobl yn gwasanaethu anghenion presennol dynion byw fel chwi a minnau. Fe lefarwyd pob rhan o hwn am fod ar rywun ei heisieu hi. Y mae pob gair o hono wedi bod yn air yn ei bryd i rywun; ac er nad yw i gyd o'r un werth a'i gilydd i ni, y mae yma, ond odid, rywbeth sydd yn taraw amgylchiad pawb yn hwn. Pob gwedd newydd ar ein profiad, pob gosodiad newydd ar ein hamgylchiadau—y mae yma rywbeth mor bwrpasol iddo a phe buasai wedi ei lefaru yn un swydd ar ei gyfer. Fe ddywed Dr. Adam Smith mai Oliver Cromwell oedd yr esboniwr goreu a fu erioed ar y Proffwyd Esaiah. A wyddai Cromwell rywbeth am gwestiynau beirniadol y llyfr? Dim; os gwyddai rhywun y pryd hwnnw am danynt fel y trinir hwy yn awr. A wyddai efe rywbeth o gyfrinach yr iaith Hebraeg? Dim o gwbl, hyd y gwyddom; ac eto efe yw'r esboniwr goreu a gafodd Esaiah erioed. Paham? Wel, am ei fod wedi cael ei hun mewn amgylchiadau tebyg i amgylchiadau Esaiah. Yr oedd ef, fel Esaiah, yn gorfod dwyn ei fyd yng nghanol pobl ddiegwyddor, oedd yn credu yn ddiderfyn yn eu hystrywiau eu hunain, ond heb gredu