dim yn y deddfau tragwyddol y mae Duw yn llywodraethu'r byd wrthynt. Fe ddeallodd Cromwell beth oedd gwely byr a chwrlid cul y Proffwyd Esaiah cynlluniau a chynllwynion pobl annuwiol yn troi yn ofer a siomedig. Yn dy fywyd bychan dithau fe ddaw profiad a thi wyneb-yn-wyneb â rhyw ddatguddiad newydd o ddaioni Duw yn y llyfr. "Mor fawr yw dy ddaioni, Arglwydd, a roddaist i gadw i'r rhai a'th ofnant. Beth ydyw hwnnw? Y daioni oedd ganddo wrth gefn, na ddangoswyd mo hono hyd awr y cyfyngder du—ni wyddet ti ddim hyd yr awr honno ei fod yno. Ti fedrit yr adnod; ond ti welaist rywbeth ynddi'r pryd hwnnw na welaist mo hono erioed o'r blaen: "Mor fawr yw Dy ddaioni a roddaist i gadw i'r rhai a'th ofnant." Pa sawl gwaith y clywsoch chi blant y diwygiad yn tystio yn eu gweddïau, "Y mae rhywbeth yn yr hen adnodau yma erbyn hyn."? Daliwch at yr adnodau; chi gewch fod mwy ynddynt eto nag a feddyliodd eich calon. Y mae'r Beibl fel mynydd uchel mewn gwlad boeth; y mae mynydd uchel yn hinsawdd y Trofegau yn dangos ar ei lethr ryw gymaint o bob hin ar wyneb y ddaear, a siamplau cyfatebol o lawer math o lysiau, o lysiau y cyhydedd hyd blanhigion y Gogledd oer. Felly y mae pob math o brofiad yn cyfarfod yn y llyfr yma—datguddiad âg amrywiaeth diderfyn ynddo.
DATGUDDIAD A CHYNNYDD YN PERTHYN IDDO.
3. Y datguddiad sydd yn y Beibl yn ddatguddiad a chynnydd yn perthyn iddo. "O Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y symudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg." Golyga hyn fod Duw wedi datguddio ei Hun ar lwybr sydd yn cyfranogi o natur gyffredin hanes cenedlaethau; a dyma ydyw'r nodwedd gyffredin honno—cynnydd, nid cynnydd di-dor ddim, ond