yn eich taflu i bembleth uwch ben y Gair, trwy ofyn i chwi gwestiynau—" ynfyd ac annysgedig gwestiynau"—nad oes dim ynddynt i rywun a gredo fod cynnydd yn un o ddeddfau y datguddiad. Pan fydd pobl yn gofyn i mi esbonio yr adnod yn y Salm, Mi a fum ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardota bara," ("Ni a welsom ni," meddant), fy ateb i iddynt fydd, mai nid dyna yr unig adnod ar y pwnc, na'r unig Salm ar y pwnc chwaith. Y mae Salm arall â'i thôn yn dra gwahanol; byddai cyferbynnu'r ddwy yn addysg i aml un ar hyn o fater. Y ffordd y byddaf fi yn cofio'r ddwy Salm yw cofio fod un yn dri deg a saith, a'r llall yn saith deg a thair. Yn Salm xxxvii. y mae dyn duwiol yn sicr o gael digon o fwyd, "Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau." Y mae gwir yn hynny, ond nid y gwir i gyd; y mae rhan arall o'r gwir yn Salm lxxiii. Yn ol honno, yr annuwiolion sydd yn llwyddo amlaf, "Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. Am hynny y cadwynodd balchter hwynt, ac y gwisg trawster am danynt fel dilledyn. Eu llygaid a saif allan gan fraster; aethant dros feddwl calon o gyfoeth . . .Wele, dyma'r rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. Diau mai yn ofer y glanhëais fy nghalon, ac y golchais fy nwylaw mewn diniweidrwydd. Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore." gwir yw, fod yn y fan yma ddyfnach gwelediad i anawsterau Rhagluniaeth nag sydd yn y Salm arall, er nad gwelediad mor gymfforddus; eto, heb y gwelediad dyfnach hwn ni chaem ni y profiad uwch sydd yn y Salm chwaith. Salm lxxiii., wedi'r cwbl, nid Salm xxxvii., sydd yn cael cipolwg dros y terfyn—gylch i fyd arall. "A'th gyngor y'm harweini; ac wedi hynny y'm cymeri i ogoniant."