Yr un ffunud am yr iechydwriaeth, graddol yw'r datguddiad o honi hithau. Cymerwn y Salmau eto yn fesur ar gynnydd y goleuni. Yn y Salmau cynnar, y ddeunawfed er esiampl—Salm ag y mae bron bawb yn cydnabod mai Dafydd oedd ei hawdur—chi dybiech nad oes ar y Salmydd eisieu fawr ddim ond chware teg. "Yr Arglwydd a'm gwobrwyodd yn ol fy nghyfiawnder; yn ol glendid fy nwylaw y talodd efe i mi." A'r hunan-gyfiawnder diniwed yma (chwedl Adam Smith) ydyw ei hyder hefyd am y dyfodol. "Edrych y mae," ebe Calfin, "arno ei hun fel cystadleuydd mewn camp, a theimlo yn sicr, gan ei fod yn cadw rheolau y chware, fod y Goruchaf yn siwr o roi'r wobr iddo." Neu, os mynnwch chi, fe deimlai fel y bydd ambell i Gymro yn siarad o flaen eisteddfod, "Ni chefais i erioed gam gan y beirniad yna." Cystal a deud, "Os na chaf fi gam, myfi fydd y goreu." Ond trowch i Salm arall, yr unfed ar ddeg a deugain. Os gwaith Dafydd yw honno—tebyg nad e ddim—y mae yn waith Dafydd wedi iddo gloddio i ddyfn newydd o edifeirwch, a dyfod o hyd i ddrychfeddwl newydd am gyfoeth gras. Yr ydych mewn byd newydd erbyn hyn. Nid cyfiawnder yn unig bellach a wna'r tro. Na, trugaredd; ac nid ychydig o drugaredd chwaith. "Trugarhâ wrthyf, O Dduw, yn ol dy drugarowgrwydd; yn ol lliaws dy dosturiaethau, dilëa fy anwireddau." Fe fydd eisieu hynny o drugaredd a feddi di i'm hymgeleddu; yr wyf yn bechadur mor fawr. "Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau; a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron. Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg; fel y'th gyfiawnhäer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech." Fel y mae Huw Myfyr wedi aralleirio yn brydferth iawn:—
"Fy mhechod sydd ysgeler iawn,
'Rwyf heddyw'n llawn gydnabod:
Yn d'erbyn di yr oedd y drwg,
Nid yw dy ŵg yn ormod.