O'r groth llygredig ydwyf fi,
Ond ceri di wirionedd;
Dof fel yr eira'n wyn drachefn,
O'm golchi yn nhrefn trugaredd."
Dyma ddyfnder newydd o ras,—
"Yn ateb dyfnder eithaf
Trueni dyno! ryw;
Can's dyfnder eilw ddyfnder,
Yn arfaeth hen fy Nuw."
Ac, o ran hynny, dyfnder sydd yn datguddio dyfnder ym mhrofiad y dyn duwiol, yn gystal ag yn arfaeth y Brenin Mawr. Felly y gellid dangos am holl athrawiaethau mawrion crefydd, cyn belled ag y ceir hwynt o gwbl yn yr Hen Destament, fod amgyffred y saint, o'u cynnwys hwy, yn cynhyddu o oes i oes.
DATGUDDIAD YN TERFYNU YNG NGHRIST.
4. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad sydd yn terfynu yng Nghrist. "O Abraham hyd Dafydd; o Dafydd hyd y symudiad i Babilon; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist." Dyma derfyn oesau datguddiad, yn yr ystyr gyfyngaf i'r gair. A fuoch chi yn meddwl pam y mae datguddiad yn terfynu ynddo Ef? Am nad oedd dim eisieu, wedi rhoi datguddiad mewn person, chwanegu datguddiad mewn llyfr. "Pan oeddym fechgyn, yr oeddym yn gaethion dan wyddorion y byd; ond pan ddaeth cyflawnder yr amser y danfonodd Duw ei Fab: wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad." "Ac o herwydd eich bod yn feibion yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba Dad." Yn yr Epistol at y Galatiaid y mae'r prynedigaeth sydd yng Nghrist, nid yn unig yn brynedigaeth oddi wrth bechod, ond gyda hynny