yn brynedigaeth i'r eglwys o gaethiwed ei phlentyndod. Yn ardaloedd y chwareli, pan ddelo'r bechgyn yn rhyw bedair ar ddeg oed, gwelir y mamau yn cynhiwair trwy'r gymdogaeth, yn gofyn i'r Person, yn gofyn i'r Pregethwr, yn gofyn i'r Ysgol-feistr
Pwy rydd ei enw wrth bapur y bachgen acw i fyned i'r gwaith? Y mae wedi pasio y standards." Pwy a seiniodd hawl plant Duw i fyned o'r ysgol fach i'r ysgol fawr; o'r gegin i'r parlwr? Pwy a'u gwnaeth hwy yn gyflawn aelodau o deulu Duw? Pwy, ond eu Brawd hynaf? Efe a'u prynodd o gaethiwed y llythyren i ryddid yr Ysbryd—i gymundeb personol, uniongyrchol, a'u Tad. Nid llen y deml yn unig a rwygwyd pan fu Efe farw; Efe a rwygodd y llen oddi ar sancteiddiolaf Gair Duw. Efe a roes hawl i ni fyned ar ein hunion i wydd y Gogoniant mawr. Ni raid bellach gael adnod ar bob pwnc. Y mae Ysbryd y Mab yn rhoddi goleu newydd ar ymwneud Duw â holl genedlaethau y datguddiad; y mae Iesu Grist yn addaw nefoedd newydd, a daear newydd, a Beibl newydd, yr un ffunud.
A'i Ysbryd Ef yw'r arweiniad i ddeall y Beibl i gyd. Efe sydd yn coroni'r datguddiad, ac Efe sydd yn ei esbonio. Maddeuwch gymhariaeth eto o fyd y chwarelwr—byd lle y treuliais i rai o flynyddau dedwyddaf fy hanes. Fe ddywedir mai camgymeriad, wrth weithio chwarel, ydyw canlyn y wythïen oreucanlyn y llygad; dyna cu gair hwy am y camgymeriad yno; ond y peth sydd yn wall mewn chwarel sydd yn rhagoriaeth wrth ddarllen y Beibl. Canlyn y llygad sydd i fod yn y fan yma—cael hyd i'r Gŵr sydd yn goron ac yn ddiben y datguddiad, a'i gymryd ef yn arweinydd i ddarllen yr Ysgrythyrau oll. O ddiffyg gweled hyn y cyfeiliornodd yr Iddewon: "Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw'r rhai sydd yn tystiolaethu am danaf