cofiant teilwng o hono, ac na wnaeth hanesyddion ei wlad eto ond dechreu rhoddi ei le iddo.
Gorffennodd Roberts ei ysgol gyda Macaulay; phrentisiwyd ef yn swyddfa'r diweddar Thomas Gee. Bwriodd o ddeutu naw mlynedd o amser yno, o 1850 i 1859, fel cysodydd i ddechreu, ac wedi bwrw'i brentisiaeth, fel cynorthwywr i Mr. Gee yn ystafell y Golygydd. Efe fu am dymor yn ysgrifennu'r prif erthyglau i'r "Faner Fach." Os gŵyr rhywun erbyn hyn pa dymor yn union oedd hwnnw, mor falch fuasai dyn o gael gweled rhai o'i ysgrifau ef, y pethau cyntaf o'i waith, ond odid, a ymddangosodd mewn print.
I flaenor o'r enw Edward Lloyd y perthyn yr anrhydedd o weled ynddo ef ddeunydd pregethwr, ac o annog mwyaf arno at hynny. Pwnc sy'n blino'r Corff lawer yn y dyddiau hyn yw, pa fodd i wneud rheolau a rwystront i bregethwyr anghymwys godi. Pwnc llawn cyn bwysiced fydd, gyd a hyn, pa fodd i gael hyd i bob un cymwys. Gwell methu, os rhaid, trwy godi degau o rai anghymwys, na cholli cymaint ag un y byddo'r gwir beth ynddo. Nid wyf yn siwr nad oes ambell un felly, naill ai heb ddechreu pregethu o gwbl, neu ynte wedi dechreu, yn rhoi grym ei lafur i rywbeth heb law gweinidogaeth y gair, a'i ddoniau o'r herwydd yn rhydu. Un o brif orchwylion swyddogion eglwysig, yn bregethwyr a blaenoriaid, ydyw adnabod a choledd gwir ddoniau'r weinidogaeth yn eu blagur gwannaf. Ac oni bai i Edward Lloyd yn un annog Thomas Roberts, dichon yr arosasai gŵr o'i dymer encilgar ef mewn distawrwydd.
Cydsyniodd o'r diwedd i'r peth fyned i lais yr Eglwys. Galwodd Swyddogion Dimbech am frodyr o'r Cyfarfod Misol i gymryd y llais, yr hyn a wnaed fis Hydref 1858. Yng Nghyfarfod Misol Llanelidan, Ionawr 1859, trefnwyd iddo ddechreu ar ei brawf; a phennwyd dosbarth Penllyn yn gylch y prawf, gan fod yr ymgeisydd i fynd i'r Bala rhag blaen. Yn y