Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/171

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III

Natur Eglwys.

"Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf a llaw gref; ac efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn."
—Esaiah viii. 11.

GAIR ydyw hwn a ddywedwyd wrth y bobl mewn adeg o gynnwrf ac anesmwythyd mawr. Yr oedd Syria ac Israel wedi ffurfio Cynghrair yn erbyn Judah; ac unig idea Judah ydoedd ffurfio cynghrair arall i gyfarfod a'r cynghrair hwnnw, galw Assyria i'w cynorthwyo hwy yn erbyn Syria a Samaria. Eu hunig ddyfais hwy er diogelwch oedd y balance of power. Yr wyf yn cymryd y Proffwyd Esaiah yn siampl a chynrychiolydd o'r wir eglwys. Y mae hynny'n deg, oblegid dyna'r lle sydd iddo yn yr adnodau nesaf. Fe ddywed yr Arglwydd wrtho: "Rhwym y dystiolaeth, selia'r gyfraith ym mhlith fy nisgyblion." A'i ateb yntau ydyw "Wele fi a'r plant." Llefaru y mae dros y wir eglwys, chwedl y Dr. Forsyth, wrth yr eglwys ar y pryd. Y mae honno'n crwydro, ac yn gwrando ar ddyfeisiadau ac awgrymiadau'r byd; ond cedwir y Proffwyd a'r disgyblion yn eu lle gan ddylanwad uwch. "Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf a llaw gref." Ystyr dywedyd wrtho a llaw gref ydyw siarad ag ef a chydio ynddo yr un pryd—gafael yn ei ysgwydd yn dynn i'w gadw ar yr iawn lwybr." Nid wyt ti ddim i fynd i bob man, fel y rhai sydd o'th gwmpas. "Efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn."

A dyna'r wedd ar gymeriad yr Eglwys y dymunwn i alw sylw ati heddyw,—rhwymedigaeth yr Eglwys i ymneilltuo, y ddyletswydd o anghydffurfio. Nid wyf