yn anghofio fod agweddau eraill. Dwy agwedd fawr y sydd ar fywyd eglwysig, meddai'r Dr. Orchard, y Gatholig a'r Anghydffurfiog. Y mae i'r elfen gatholig ei lle a'i swydd, yr elfen honno sy'n gwneuthur yr Eglwys yn gartref i bob ffurf gyfreithlon ar fywyd dyn ac ar fywyd cymdeithas. "Fy holl ffynhonnau sydd ynnot ti." Ond heddyw y llall a fydd gennym, yr elfen o anghydffurfio. Prin y mae eisiau deud wrth neb o honoch mai nid anghydffurfio ag unrhyw eglwys neilltuol a feddylir, ond anghydffurfio, fel y dywed y Dr. Orchard, ag ysbryd y byd. Dyma mewn gwirionedd yr unig beth gwerth ymneilltuo oddiwrtho. Rhaid wrth yr ymneilltuo arall bid siwr, ymneilltuo oddiwrth eglwys arbennig. Fe fu hynny lawer gwaith, ac nid oes wybod na fydd hynny eto. Ymneilltuwyr oedd y Brodyr Gwynion, a'r Brodyr Duon, a'r Brodyr Llwydion, yn y Canol Oesoedd, ac y mae'r un peth wedi bod yn y byd Protestanaidd.
Y gwahaniaeth yw, fod Eglwys Rufain yn gallach lawer nag Eglwys Loegr. Os cyfyd Ymneilltuwyr yn Eglwys Rufain, hi rydd wisg neilltuol am danynt. Os digwydd y peth yn Eglwys Loegr, nid oes ganddi hi ddim gwell i'w gynnyg iddynt na deddf Unffurfiaeth. Ffrwyth Deddf Unffurf Eglwys Loegr oedd eu troi hwy allan: ffrwyth gwisg unffurf Eglwys Rufain oedd eu cadw i mewn, a'u cadw felly yn ffyddlonach na neb i'r Eglwys a roes drwydded iddynt ymwahanu, neu yn hytrach ymneilltuo. Nid oes dim achos i Ymneilltuwr fynd yn ymwahanwr. Ymwahanyddion y byddai Ieuan Brydydd Hir yn ein galw ni hefyd; ond nid oes eisiau, o angenrheidrwydd, i Ymneilltuwyr fynd yn ymwahanyddion; ac ar Eglwys Loegr yr ydwyf fi'n rhoi y bai o'u bod hwy wedi mynd. Ond yr achos o ymneilltuaeth yn yr ystyr yna, ymneilltuaeth oddiwrth eglwys arbennig, ydyw, bod eglwysi cyfain weithiau yn dyfod dan ddylanwad y byd; a phan fo hi felly, nid oes dim dichon ymwrthod a hwnnw heb