Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymneilltuo a'r eglwys a roes ormod o groeso iddo. Dyna enaid pob ymneilltuo teilwng. Gwn fod llawer yn meddwl mai rhyw groesni barnol yw Ymneilltuaeth, fel y dywedai Bardd Nantglyn am yr Annibynwyr,

"Cristianiaid yn croes—dynnu"; ond dyma'r gwir anghydffurfiwr, anghydffurfiwr oddiwrth ysbryd y byd.

Ymneilltuo mewn athrawiaeth.

I. Y mae hi'n ddyletswydd ar yr Eglwys ymneilltuo oddiwrth y byd yn ei hathrawiaeth. Temtasiwn gref sydd iddi ystumio'i chenadwri i gyfarfod a defodau athronyddol yr oes. Cyfyd hynny o beth sydd ynddo'i hun yn angenrheidiol ac yn dda. Rhaid i'r Eglwys esbonio'i hefengyl i wahanol oesau; ac er mwyn gwneud hynny rhaid iddi ddefnyddio geiriau ac enwau yr oes, a'u newid hwy o bryd i bryd i gyfarfod ag oes newydd. Od yw'r Eglwys i fod yn Eglwys fyw, rhaid iddi ddeud ei meddwl mewn iaith a ddealler ar y pryd. Ond gwylied hi wrth wneud hynny rhag newid ei hathrawiaeth, a dywedyd rhywbeth y drws nesaf i'r peth oedd ganddi, ac nid y gwir beth ei hun. Y mae yn yr Efengyl bethau anawdd iawn eu credu; a phan ddywed hi fod Duw yn maddeu, yn rhoi cychwyn newydd i bechadur heb ddim, hawdd iawn gan yr Eglwys chwilio am bethau tebyg i faddeuant, wrth geisio pontio'r gwahaniaeth rhwng y cyffredin a'r goruwch—naturiol, a gwneuthur maddeuant yn llai o wyrth. "Yr afradlon yn dechreu dyfod ato'i hun ydyw," ac yn y blaen. A lle bynnag y delo gras i mewn, y mae hi'n dipyn o demtasiwn ei esbonio i ffwrdd, hyd na bo dim o hono, dim ond rhywbeth tebyg yn ei le. Nid temtasiwn mo hon. Y mae hi'n hen iawn. Meddyliwch am Glement o Alexandria, y gŵr duwiol a chyrhaeddgar hwnnw. Y mae ganddo ef gymhariaeth awgrymog iawn i ddangos sut y mae Duw yn ateb gweddi. Dacw ddyn yn y llong, a rhaff