ganddo yn ei law o yn rhwym wrth y cei, ac yntau'n tynnu. Gall ef feddwl mai'r llong sy'n tynnu'r cei ati; ond mewn gwirionedd y cei sy'n tynnu'r llong. Cymhariaeth wych iawn, ond y mae hi'n cuddio un rhan bwysig o'r gwirionedd, yr ystyriaeth fod Duw yn symud wrth ateb gweddi. Nid rhyw hyn a hyn o nerth sydd yno, yn ei unfan, a ninnau trwy weddi yn ein gweithio'n hunain i gydweithrediad â hwnnw. Y mae hynny'n bod; ond y mae mwy yn bod na hynny. Duw byw ydyw'n Duw ni; ac y mae yntau'n gweithredu ei hunan i gyfarfod ein gwaith ni. Croeso i'r Eglwys chwilio am bob dameg i ddangos ei phwnc. Y mae'r byd yn llawn o honynt. Ond cofied hi yr un pryd fod ganddi hi rywbeth i'w ddeud dros ei Duw na fedd y byd ddim yr un fath ag ef. "Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf a llaw gref."
Yn Annibynnol ar bob Plaid a Dosbarth.
2. Rhaid i'r Eglwys ymneilltuo trwy fod yn annibynnol ar bob plaid a dosbarth mewn cymdeithas. Nid yw hi ddim i roi siaced fraith i unrhyw blaid boliticaidd. Y mae hi'n rhwym o deimlo fod cyfathrach arbennig rhyngddi a rhywbeth ym mhrogram y pleidiau, ond nid gwiw iddi ei chlymu ei hun yn rhy dynn wrth unrhyw blaid. A'r un ffunud am ddosbarthiadau cymdeithas. Fe gwynir fod Eglwys Loegr wedi bod yn ormod o Eglwys y bobl fawr; ac erbyn hyn fe gwynir mewn rhyw gylchoedd, yn Neheudir Cymru yn enwedig, fod y capel yn ormod o gapel y Manager a'r Under-Manager. Dyna sy'n cyfrif am ddarfod estronni llawer oddiwrth grefydd swyddogol fel y gelwir hi, yr un peth ag a bair i un capel mewn tref fynd yn gapel y pennau teuluoedd a'r bobl gymfforddus, ac i un arall fynd yn hoff gapel y bobl ifainc, gweinidogion y siopau a'r tai. Dylai'r Eglwys fod yn ormod o bendefiges i'w chlymu ei hunan wrth unrhyw ddefod nac unrhyw gylch nac unrhyw sefydliad.