"Efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn." Y mae'r byd yn dyfod yn well, meddech chi. Ydyw, diolch i Dduw am hynny; ond ni ddaw o byth yn ddigon da i Eglwys Iesu Grist gymryd ei chyweirnod oddiwrtho.
Yn Annibynnol ar Genedl.
3. Y mae'r Eglwys i ymneilltuo trwy fod yn annibynnol ar genedl. A ydych chwi'n tybied y buasai'r llun sy ar y byd heddyw pe cofiasai'r Eglwys yn y gwahanol wledydd beth fel hyn? Yn lle hynny y mae'r Eglwys ym mhob gwlad wedi datgan ei chymeradwyaeth o safle'r wlad y perthynai iddi yn y Rhyfel hwn. Rhyfel cyfiawn, meddech chwi. Caniatewch hynny; eto ni all hynny fod yn wir am bob gwlad sy yn y Rhyfel. Ac eto rhywbeth tebyg iawn i hynny y mae'r eglwysi yn ei ddeud. Yr unig eithriadau yw'r Pabyddion yn un pen i'r llinyn, a'r Crynwyr yn y llall; ac nid ydynt hwythau yn eithriadau hollol. A pheth arall, bwriwch fod ein hochr ni dyweder i'r Rhyfel yr unig ochr y mae uniondeb a rheswm o'i phlaid, ni wyddem ni fel eglwysi mo hynny cyn pen pythefnos ar ol torri'r Rhyfel allan; ac eto dyna a wnaeth yr Eglwys, cyhoeddi yn ddifloesgni a di-warafun, heb ymdroi dim i ymorol, fod y Rhyfel o'n hochr ni yn ei le. Nid yr eglwysi caethion, fel y galwodd rhywun hwy, sydd ddyfnaf yn y camwedd. Buasech yn maddeu iddynt hwy, yr eglwysi gwladol, am gefnogi'r awdurdod a roddai fenthyg ei nodded iddynt; ond y mae'r eglwysi rhyddion am y cyntaf a hwynt mewn sêl ac eiddigedd dros y llywodraeth wladol.
Fel y dywedodd rhywun, nid arwain a wnaethant, ond dywedyd amen wrth bob peth a ddywedai'r Llywodraeth. Y peth lleiaf a ddisgwylid fuasai iddynt ymbwyllo ac ystyried. Ond yr oedd arnom ofn meddwl drosom ein hunain, ac ofn ymwrando ag unrhyw lais ond llais y wladwriaeth, rhag cael arweiniad gwahanol