Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r hyn a ddisgwyliem. Felly yr oedd hi ar Ahas Frenin Judah a'i dywysogion. Felly yr oedd hi ar breswylwyr Jerusalem. Y mae gair Esaiah wrth Ahas cyn wiried heddyw ag ydoedd pan lefarwyd ef gyntaf: "Oni chredwch ni sicrheir chwi." "Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw," meddai. Cadw gyfarfod gweddi, cyn selio'r cytundeb a Brenin Assyria, i ymofyn ai fel yma yr wyt ti i fynd, ynte ryw ffordd arall. "Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw, gofyn o'r dyfnder, neu o'r uchelder oddi arnodd." "Ond Ahas a ddywedodd," yn dduwiol iawn chi dybiech wrth ei swn ef, "Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd." Atebiad oedd yn grefydd i gyd o ran ei swn, ond yn rhagrith i gyd o danodd. Meddyliwch mewn difrif, Ahas yn rhy dduwiol i gadw cyfarfod gweddi. "Mater i'r Cyfrin-Gyngor ydyw hwn," meddai, Gresyn sarhau mawrhydi Duw Israel trwy fynd a rhyw neges fach fel hon o'i flaen." Y gwir oedd fod arno ofn cyfarfod gweddi, rhag y byddai'r atebiad yn groes i'r fel y disgwylient hwy. Odid nad oedd y cenhadon i Assyria eisoes wedi cychwyn, ac na fyddai raid gyrru buanach meirch ar ol y negesyddion cyntaf i'w galw adref. Ofn oedd ar Ahas i'r cyfarfod gweddi ddatod y cynghrair ag Assyria dyrysu ei gynllun ef. Felly ninnau, y mae arnom ofn cyfarfod i ofyn barn a chyngor y Brenin Mawr, rhag i hwnnw fod yn groes i'n cyngor ni. Llawer cyfarfod gweddi a gadwyd i ofyn ei amddiffyn a'i help ef yn y Rhyfel, ond dim un hyd y clywais i, i ofyn iddo a oedd Rhyfel i fod. Y mae gan y byd ei ffordd o benderfynu cwestiynau, ond nid honno ddylai fod ffordd yr Eglwys. Ymwrando ag ewyllys Duw ydyw alpha ac omega ei chredo hi. Pa bryd y daw hi'n ol i'r fan yma tybed? Pa bryd y bydd llaw Duw yn drom arni unwaith eto i'w chadw yn ei lle? Cymdeithas o ymneilltuwyr ydyw Eglwys, ac a fydd hi hefyd. Ni ddylai ei chlymu ei hun wrth genedl mwy nag wrth