Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llygad ar ystyr a gwerth dioddef. Ond wedyn y mae lled y nefoedd o wahaniaeth rhwng y lle sydd i ddioddef yn system y byd a'i le fo yn system yr Eglwys. Damwain ydyw dioddef yn system y byd; y dioddefiadau erchyll yma, nas gwelodd y byd eu cyffelyb, damweiniau ydynt mewn rhyfel. Dyna y byddwn ni'n eu galw hwy onid e? casualties? Nid oeddent hwy ddim yn y contract. Ond yn yr Efengyl y mae Calfaria yn rhan o'r cynllun. "Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch." Yma nid mater o ddamwain, ond mater o drefn ydyw'r groes. Dioddef wrth ymladd y bydd y byd ymladd trwy ddioddef y mae'r Eglwys.

Beth a ddaw o honom?

Wel, meddech chi, os gwnawn ni yr un fath a'r Proffwyd Esaiah, gwrthod rhodio yn ffordd y bobl hyn, fe dderfydd am ein llwyddiant. Awn yn amhoblogaidd yn ddi-os. Nag-awn, fy nghyfeillion i, nag-awn ni ddim yn amhoblogaidd ar y llwybr yma. A wyddoch paham yr ydym ni mor amhoblogaidd, paham nad yw'r Eglwys yn tynnu ati? Y byd sydd yn lled ameu nad oes gennym ni ddim i'w ddeud nad yw ganddo yntau hefyd. Da yr wyf yn cofio i mi bregethu ryw fore Sul flynyddoedd yn ol, a chymryd tamaid go fawr o'r amser i ddangos y gwahaniaeth rhwng rhyw ddau ben oedd gennyf. Gwarchodwn y clawdd terfyn mor eiddigus a phe buasai gennyf lafur mewn un cae a phorfa yn y llall. Ond dywedai cyfaill wrthyf ar ddiwedd yr odfa: "Yr un peth oedd gennyt ti dan y ddau ben yna wedi'r cwbl, onid e?" A gorfu i mi gyfaddef mai felly'r oedd hi. Paham na ddaw'r bobl atom. Nid ydynt yn ddigon siwr fod gennym ni ddim i'w ddywedyd nad oes gan y byd ei debyg. Unwaith y gwypont hwy fod yma rywbeth i'w gael, rhyw gyf-