rinach na fedd y byd mo honi, hwy ddeuant atom heb eu galw. Nid oedd hi fawr o gamp i'r pedwar gwahanglwyfus hynny ym mhorth Samaria fod yn boblogaidd. Aeth aml un, y diwrnod hwnnw, yn nes atynt nag yr oedd y Gyfraith yn caniatau. Paham? Newydd am damaid o fwyd i bobl ar lewygu o newyn oedd ganddynt. Rhowch chi i'r gair fyned allan fod yma. rywbeth i'w gael, fe ddaw'r byd atom.
"Taught in thee is a salvation,
Unknown to every other nation;
And great and glorious things are heard:
In the midst of thee abiding,
Enlightening, comforting, and guiding,
Thou hast the Spirit and the Word."
Ac od oes arnoch eisiau Ysgrythyr ar y pwnc, dyma hi, "A'r dydd hwnnw y bydd i'r Arglwydd ddyrnu o ffrwd yr Afon hyd Afon yr Aifft; a chwi meibion Israel a gesglir bob yn un ac un (nid fel dyrnu yd, ond fel casglu ffrwythau—gofalu na bo'r naill afal yn cleisio'r llall, a bod pob afal yn iach). Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr yna y daw y rhai ar ddarfod am danynt yn nhir Assyria, a'r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft ac a addolant yr Arglwydd yn y Mynydd Sanctaidd yn Jerusalem." Jerusalem wedi ei chasglu bob yn un ac un fydd y Gaersalem boblogaidd wedi'r cwbl, nid Dinas Duw yn ymostwng i ddeud yn deg wrth y bobloedd, ond Jerusalem a chanddi genadwri at y cenhedloedd nas gŵyr neb ond hyhi.
[Y Drysorfa, Awst, 1917.