Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glyn, Plwyf Llangywer, y traddododd ei bregeth gyntaf, a'r ail, os nad wyf yn camgofio, yng Nghwmtirmynach y Saboth wedyn. Nid wyf yn siwr pa un o'r ddau dro hyn y bu damwain. Hyd y gallaf gofio rhywbeth fel hyn a ddigwyddodd. Yr oedd y bregeth mewn ysgrifen o'i flaen; a rywle ar y canol aeth yr ysgrif oddi arno i waelod y pulpud. Nid oedd y pregethwr, fel y clywais ef yn adrodd, yn cofio fawr ddim a ddywedodd o hynny ymlaen, ond iddo weiddi llawer. Nis gwn ai y pryd hwnnw y collodd ei ffydd mewn pregeth bapur; yr oedd wedi hen golli ffydd ynddi cyn i mi ei adnabod ef. Clywais ef fwy nag unwaith yn datgan ei anghymeradwyaeth o honi o gadair y Sasiwn; a chlywais ddweyd, iddo rwygo'i araith enwog ar Natur Eglwys yn Sasiwn Llanrwst, ar ol ei hysgrifennu hi deirgwaith. Nis gwn gan bwy y cefais yr ystori, na phaham y gwnaeth efe felly, os nad rhag ofn y demtasiwn i ddefnyddio'r ysgrif yn y Cyfarfod.

Ym mysg ei gydefrydwyr yn yr Athrofa ystyrid Thomas Roberts yn ŵr ieuanc o farn a doethineb fwy lawer na chyffredin; ac nid bychan o beth ydyw hynny i ddyn o'i fath ef; oblegid nid oedd efe hyd yn oed yn ei ddyddiau addfed yn oer nac araf ar un cyfrif. Nid oes nemor o gamp i ddyn arafaidd gael y gair o fod yn ddyn call; ond peth arall oedd hynny i ddyn a'i lond o dân, dyn a lefarai ac a weithredai lawer ar gynhyrfiad y foment. Rhaid i gynhyrfiad y foment mewn un felly fod ar y cyfan yn dda, onide, fe'i gesyd ei hun bob dydd o'i einioes yn agored i fethu. Dyn o deimladau byw oedd hwn; a dysgodd y gamp o fod yn bwyllus heb fod yn bwyllog. Pan dybiai ei fod wedi camsynied, ni fynnai gelu na bychanu'r camgymeriad. Cymerai fwy na'i ran o'r bai; ac er y teimlai bob sen i'r byw, nid oedd bod yn groeniach yn beth y maliai fawr am dano. Go hawdd fyddai ganddo ddwrdio tipyn ar ambell i wrandawr a barai flinder iddo; ond byddai hynny'n aml yn fwy o ofid i'r pregethwr ei