IV
Beth yw'r Groes heblaw Datguddiad?
PAWB sydd yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist o gwbl, fe gred ei fod ef yn ddatguddiad neilltuol ac eithriadol o Dduw, ac fe gred hefyd nad oes unrhyw ran o'i hanes ef yn fwy o ddatguddiad nag ydyw ei angau. Y mae hyn yn wir wrth reswm am y diwinyddion Efengylaidd hynny a gred mewn Iawn Gwrthrychol. Nid gwadu'r elfen o ddatguddiad yn angau'r Groes y maent hwy, ond dal bod y Groes yn fwy na datguddiad. Ac am ddiwinyddion a wrthyd y golygiad traddodiadol, datguddiad yw eu prif bwnc hwy, fel nad oes berigl iddynt ei esgeuluso; ac nid hwynt-hwy beth bynnag a gyfeiliornai trwy ysgaru angau Crist oddiwrth ei brofiadau eraill. Os yr un, cyfeiliornad y blaid geidwadol ar hyn o bwnc ydyw hwnnw. Felly gallwn gymryd yn ganiataol fod pob ysgol o ddysgawdwyr y mae eu barn o ddim pwys at ein pwrpas ni yn awr, yn unair o'r farn fod angau'r Groes yn ddatguddiad. Ond fe dâl inni am dro ymorol beth arall ydyw'r Groes. Dyma lle y daw gwahaniaeth barn i mewn. Ac addef ynteu fod angau'r groes yn ddatguddiad o Dduw—ac ni allasai fod yn llai na hynny, pe na bai ond oherwydd ei fod yr esiampl uchaf o oruchafiaeth carictor—beth sydd yma heblaw hynny? Beth sydd yn achub, ai'r Groes, ynteu'r peth y mae'r Groes yn ei ddatguddio? Ai datguddio'r gras sy'n ein hachub ni a wnaed ar Galfaria, neu a chwanegwyd rhywbeth at werth yr efengyl sy'n achub trwy ddatguddio gras Duw mewn cyfres o weithredoedd, ac yn enwedig yn y weithred fawr o farw ar y pren?
Teg cydnabod, ar drothwy'r ymchwiliad, na byddai'r Groes ddim o gwbl yn ddibwys nag yn wag o ystyr