pe datguddiad yn unig a fyddai hi. Y mae datguddiad calon Duw yn beth mawr iawn yn ddiau, ac ni fynnai neb ei fychanu—dangos o dan amodau amser a chnawd beth y mae maddeu i bechadur yn ei olygu i Dduw, pa ryw agwedd ar gariad tragwyddol yw honno sy'n medru maddeu. Ond wedi arfer credu y mae'r Eglwys, o ddyddiau'r apostolion i lawr fod mwy na datguddiad yn y Groes? Beth yn fwy ydyw?
Duw yn cael prawf arno'i hun.
I. Un ateb a ymgynnyg ar unwaith yw, bod Duw yn y Groes wedi cael prawf arno'i hun. Nid i ni yn unig y mae'r fantais o waith Duw yn ei ddatguddio'i hun. Y mae'r datguddiad yn adweithio arno yntau.
Byddai'n well gan ddyn fethu trwy ddywedyd rhy fychan na thrwy ddywedyd gormod ar fater fel hwn; ond fe ymddengys rywsut fod gwahaniaeth i Dduw rhwng peth wedi ei gyflawni a pheth wedi ei fwriadu'n unig. Nid yw'n hawdd gweled pa fodd. Y mae rhagwybodaeth Duw, yn ol y syniad cyffredin amdani, yn gyfryw nes bod yr hyn a fydd yn bod eisoes megis pe buasai wedi ei gyflawni. Ac eto pe gwasgem yr ystyriaeth yna'n rhyw bell iawn, deuem i'r casgliad nad oedd dim gwerth i Dduw ar weithredoedd ragor na bwriad. Ni byddai na chreadigaeth na datguddiad o fath yn y byd yn amgen iddo ef na bod hebddynt. Ni thorrent unrhyw syched yn ei galon. Ond nid Duw fel yna yw Duw'r Beibl, na Duw crefydd o gwbl yn wir. Gallai'r athronydd fodloni ar Dduw fel yna yn sail i adeiladu rhes o ymresymiad arno; ond nid oes dim yn y syniad at ddiwallu'r anian grefyddol. Duw crefydd o angenrheidrwydd, heb sôn am Dduw Cristionogaeth, Duw ydyw yn hoffi dyfod allan ohono'i hun mewn gweithredoedd. Hyd yn oed pe derbyniem ddysgeidiaeth llinellau prydferth Emrys fel gwir llythrennol:—