Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

werthfawrogi. A ellir cymhwyso hynny at Dduw? Gellir, os Duw ein Harglwydd Iesu Grist a fydd ef; oblegid fe gynnwys y Duw hwn gymdeithas i apelio ati ynddo'i hunan. Ar y cyfan ynteu, hyd y gallwn ni ddefnyddio cyffelybiaethau dynol yn risiau i ddringo i gyfrinach yr anweledig—a pha beth arall a allwn ni ei gael?—y tebig ydyw fod act a bwriad yn ddau beth gwahanol hyd yn oed i Dduw.

Ac i mi dyma'r elfen o wir sy mewn rhyw syniadau pur gynefin am Dduw. Dacw i chwi un—yr idea o ogoniant Duw. Hawdd iawn gwneuthur gwawd o ryw agweddau i'r idea honno—dywedyd ei bod hi'n portreadu Duw fel tyrant dwyreiniol ar ei frenhinfainc, a phawb am ei fywyd yn ceisio'i ddyhuddo ef. Ond gwawdier a fynnom, y mae gwir yn y syniad o ogoniant Duw. Y mae yn wir fod rhyw fyd moesol i apelio ato, rhyw safon y mae Duw yn ei gosod iddo'i hun, a bod ei gyfiawnhau ei hun wrth y safon honno yn beth teilwng o Dduw, yn union fel y mae cadw'i lygad ar ryw safon, a gofalu na syrthio er dim is-law iddi, yn deilwng o ddyn da. Nis gall efe ei wadu ei hun." Neu cymerwch y syniad o fodlonrwydd: "Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y'm bodlonwyd." Y mae bodlonrwydd yn idea hawdd iawn ei gwyrdroi i ffurfiau gwrthun—bodloni'r Arglwydd â miloedd o fyheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew. Ond y mae'r idea ei hun yn un wir er hynny. Y mae'r fath beth yn bod a bod y Duw Mawr, yr hwn ni dderbyn wyneb ac ni chymer wobr, yn cael ei fodloni. arno eisiau cyrraedd peth nad yw wedi ei sylweddoli eto fel ffact. Y mae Duw yn ddigon tebig i ddyn, i osod ei fryd ar amcan sydd eto heb ei gyrhaeddyd; ac y mae cyrhaeddyd hwnnw yn torri rhyw syched ynddo.

Cymhwyser hyn at hanes Iesu Grist. Ynddo Ef fe wnaeth Duw rywbeth, fe gyflawnodd rywbeth sy'n ogoniant iddo ac yn fodlonrwydd ganddo. Yn ol